Hydref 2025

23/10/2025

Llwyddiant i Dîm Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn Noson Wobrwyo Gwasanaeth Tân!

Cyflwynwyd Gwobr Partner Diogelwch Cefn Gwlad i Dîm Cefn Gwlad y Cyngor am Brosiect Partneriaeth Rhostir.

Gan gydweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y Prosiect Partneriaeth Rhostir, cafodd y tîm ei gydnabod am eu hymroddiad a phartneriaeth gref yn cefnogi’r gwasanaeth tân wrth ddelio â thanau gwyllt peryglus. 

Yn rhan o’r prosiect, bu Ceidwaid Cefn Gwlad yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân yn ystod ymgyrch amlasiantaeth pedwar diwrnod o hyd ar fryniau’r Berwyn pan effeithiodd tân gwyllt ar bron i 350 hectar o rostir ar Foel Fferna yn gynharach eleni.

Mae’r gwaith o gydweithio rhwng Ceidwaid Cefn gwlad a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau wrth iddynt gynnal ymgyrchoedd ar y cyd i hyrwyddo’r defnydd cyfrifol o danau a barbeciws yng nghefn gwlad, gan sicrhau bod pawb yn deall y peryglon difrifol y gallant eu hachosi i’n Tirwedd Cenedlaethol.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r tîm am ennill y wobr wych hon. Mae’n adlewyrchu’r gwasanaethau hollbwysig y mae’r tîm yn eu darparu mewn sefyllfaoedd peryglus, ac mae’n enghraifft wych o beth y gall ymagwedd o gydweithio effeithiol ei gyflawni. 

“Mae ein Ceidwaid Cefn Gwlad yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod preswylwyr ac ymwelwyr â’r Sir yn gallu mwynhau ein tirwedd eang ac mae’n wych bod eu gwaith caled wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr hon”.

Comments