15/10/2025
Tynnu sylw at gynnydd gwarchodfa natur yn y Rhyl mewn gwobrau cenedlaethol

Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gefnogaeth gynyddol i natur leol.
Gwobrwywyd Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 yn ddiweddar yn Wrecsam.
Mae ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd wedi bod yn gweithio i wella’r safle ar gyfer natur ac er mwynhad y gymuned leol.
Mae’r gwaith datblygu parhaus wedi bod yn gyfrifol am greu pwll ac adfywio hen berllan gymunedol, gwelliannau i’r llwybrau cerdded, cael gwared â choed marw a thacluso’r golygfannau o gwmpas y prif bwll i wella’r profiad i ymwelwyr.
Mae gwaith hefyd wedi’i wneud i wella’r coetir bach wrth ymyl maes parcio’r warchodfa ac mae dolydd blodau gwyllt newydd hefyd wedi’u hau ar y safle.
Mae ceidwaid a gwirfoddolwyr yn cydweithio’n rheolaidd i ddysgu crefftau cefn gwlad fel plygu gwrychoedd ar y safle i geisio gwella cynefinoedd ar gyfer natur.
Bu i fyfyrwyr Coleg y Rhyl ymuno â cheidwaid ym Mhwll Brickfield ar gyfer sesiwn ar sut i godi ‘Clwydi Cyll’ ac mae eu hymdrechion wedi helpu i wella’r golygfannau sydd wedi’u hagor o gwmpas y dŵr.
Mae ardaloedd o amgylch y warchodfa natur hefyd wedi eu gwella i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.
Nodwyd yng ngwobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ Cymru yn ei Blodau 2024 bod Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn ‘Ffynnu’. Mae’r maes hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun i grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal leol.
Eleni mae’r warchodfa wedi mynd gam ymhellach drwy dderbyn gwobr ‘Rhagorol’ Lefel 5 yn y seremoni 2025.
Dywedodd Vitor Evora, Ceidwad Cefn Gwlad sy’n rheoli’r safle: “Mae gennym dîm gwych o geidwaid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed iawn yn y warchodfa ac mae’r wobr hon, sy’n dangos gwelliannau i’r safle ers y llynedd, yn brawf o ymrwymiad pawb i wneud hwn yn le gwych ar gyfer natur a’r gymuned gyfagos.
“Byddwn yn parhau i ddatblygu’r warchodfa natur gyda phwyslais i wella ymhellach yn y dyfodol i wella’r profiad i ymwelwyr a’r gefnogaeth i’n hanifeiliaid, planhigion a choed ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff wedi gwneud gwahaniaeth positif go iawn i Bwll Brickfield drwy eu gwaith ymroddgar yn gwella bioamrywiaeth a’r ardal ar gyfer y gymuned. Mae’n ardderchog eu bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon am wneud gwelliannau i’r safle o ganlyniad i’w gwaith caled.”