26/09/2025
Gwaith uwchraddio ym Mharc Gwledig Loggerheads

Mae gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar uwchraddio cyfleusterau ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads.
Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Gorllewin Clwyd.
Mae’r cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Mae’r cam cyntaf yn cynnwys gwaith ailwampio llawn yn y toiledau cyhoeddus, yna gwelliannau i’r caffi ar y safle a’r ystafell gyfarfod ac yna’r ganolfan ymwelwyr a gwaith tirlunio allanol sy’n gyfeillgar i deuluoedd.
Mae’r contractwyr lleol, Park City o Lanelwy wedi’u penodi i wneud y gwaith, mewn partneriaeth â’r penseiri dylunio TACP, sy’n seiliedig yn Wrecsam.
Er y gwaith adeiladu sy’n digwydd, bydd Parc Gwledig Loggerheads yn aros ar agor i ymwelwyr. Bydd cyfleusterau toiled dros dro ar gael, ac ardal eistedd â lloches er mwyn sicrhau bod y profiad yn gyfforddus i bawb.
Yn y cyfamser, mae cyfleuster arlwyo dros dro newydd, Tŷ’r Felin / Mill House wedi agor drws nesaf i’r felin hanesyddol. Caiff ei weithredu gan y cynhyrchwyr lleol, Chilly Cow, a bydd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth, hufen iâ, byrbrydau a chacennau lleol. Bydd ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 4pm, tan i’r caffi ailagor ym mis Mawrth 2026 wedi’i adnewyddu.
Mae’r gwaith uwchraddio hwn yn rhan o ymdrechion parhaus i wella’r profiad i ymwelwyr yn un o barciau gwledig mwyaf poblogaidd gogledd Cymru, sy’n croesawu mwy na 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.
“Bydd y gwaith uwchraddio i Loggerheads yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu’r parc ar gyfer y nifer gynyddol o ymwelwyr sy’n dod bob blwyddyn. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal a chadw a datblygu ardaloedd tirwedd cenedlaethol arbennig fel Loggerheads wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.
