Hydref 2025

17/10/2025

Anrhydedd gwobr Gymreig i ardal natur Rhuthun

Mae cynllun gwobrau cenedlaethol wedi tynnu sylw at dwf ardal natur yn Rhuthun.

Anrhydeddwyd ardal Creu Coetir Llanrhydd yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Wrecsam.

Yn wreiddiol, aeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ynghyd â Thîm Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr ati i adfywio’r hen gae ysgol ger Ysbyty Rhuthun yn 2022, a hynny er lles byd natur lleol ac er mwynhad y trigolion cyfagos.

Bu disgyblion ysgol lleol yn helpu gyda’r gwaith o blannu bron i 800 o goed ar y safle fel rhan o waith parhaus y Cyngor i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth yn y sir.

Yn unol â’r thema ysgol, adeiladwyd ystafell ddosbarth awyr agored ar y safle i helpu plant ddysgu am fioamrywiaeth ac i roi help llaw i greaduriaid nos yr ardal.

Adeiladwyd yr ystafell ddosbarth o goed gan grefftwr lleol, Huw Noble, ac mae’n cynnwys ‘To Ystlumod’ a ddyluniwyd yn arbennig i ddarparu’r nodweddion y mae ystlumod eu hangen i glwydo yn ystod y dydd.

Yn ogystal, crëwyd llwybrau drwy’r dolydd blodau gwyllt ar y safle, datblygwyd pwll i gefnogi natur, ac ychwanegwyd meinciau picnic i’r gymuned eu defnyddio.

Mae’r safle wedi bod yn cael ei reoli wedyn gan y Ceidwaid Cefn Gwlad gyda chymorth gwirfoddolwyr a gefnogir gan Natur er Budd Iechyd.

Enwebwyd y safle ar gyfer y gwobrau am y tro cyntaf y llynedd, gan gyrraedd Lefel 4, ‘Ffynnu’, yng ngwobrau Eich Cymdogaeth y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Cymru yn ei Blodau 2024. Mae’r categori hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun ar gyfer grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau eu hardal a’i gwneud yn fwy gwyrdd.

Yn 2025, mae’r safle bellach wedi gwella i gyrraedd y lefel uchaf ac ennill gwobr Lefel 5, ‘Rhagorol’, yn y categori hwn.

Meddai’r Uwch Geidwad Cefn Gwlad, Jim Kilpatrick: “Rydym ni’n falch iawn o dderbyn y wobr hon. Mae’n dangos bod gwaith yr holl wirfoddolwyr, yn hen ac yn ifanc, ochr yn ochr â’n Ceidwaid, wedi helpu’r safle gwych hwn ar gyfer natur a chymuned Rhuthun i dyfu a gwella go iawn ers y llynedd. Mae’n parhau i ddatblygu’n dda iawn ers ei darddiad yn 2022; mae'r dolydd yn ffynnu ac yn gwella yn dymhorol ac mae’r coed a blannwyd wir yn tyfu’n gryf.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r grŵp hwn o wirfoddolwyr a staff wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol enfawr i’r hyn a arferai fod yn hen gae ysgol yn Rhuthun, diolch i’w gwaith ymroddedig i wella bioamrywiaeth a’r amgylchedd ar gyfer y gymuned.  Mae’n wych eu gweld yn cael y gydnabyddiaeth hon am welliant parhaus y safle, sy’n brawf o’u holl waith caled.”

Roedd Llanrhydd yn brosiect Creu Coetir a ariannwyd gan TWIG (Grant Buddsoddi mewn Coetir Llywodraeth Cymru).

 

 

 

 

Comments