15/10/2025
Gwasanaeth teleofal yn cael ei arddangos mewn digwyddiad cymunedol
Gwahoddir preswylwyr i ddysgu mwy am y gwasanaeth Teleofal allweddol mewn Diwrnod Agored arbennig a gynhelir ddydd Mawrth 21 Hydref.
Ystafell arddangos sydd wedi ei dodrefnu er mwyn edrych fel cartref
Bydd y Diwrnod Agored yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm yn Ystafell Arddangos Teleofal Sir Ddinbych, Uned A4, Ystâd Ddiwydiannol Pinfold, y Rhyl Ll18 2YR.
Mae Teleofal yn darparu technoleg a monitro 24/7 i helpu pobl i aros yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gwasanaeth yn arbennig o werthfawr i bobl hŷn, pobl ag anableddau neu unigolion sy’n byw gyda chyflyrau iechyd.
Gyda’r defnydd o offer arbenigol fel synhwyrydd syrthio, larymau personol, a synwyryddion mwg neu garbon monocsid, mae’r dechnoleg yn cael ei chysylltu’n uniongyrchol â chanolfan fonitro, lle bo staff sydd wedi’u hyfforddi ar gael i gynorthwyo.
Os ceir rhybudd, gall y tîm gysylltu ag aelodau’r teulu, anfon cefnogaeth neu alw’r gwasanaethau brys.
Yn ystod y Diwrnod Agored, bydd cyfle i weld ystafell arddangos sydd wedi ei dodrefnu er mwyn edrych yn union fel cartref.
Bydd modd i ymwelwyr weld sut y gellir gosod yr offer heb fod yn amlwg a’i ddefnyddio o ddydd i ddydd, o synwyryddion syrthio i synwyryddion gweithgarwch sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia.
Mae teleofal ar gael am £17.50 y mis, gan gynnig sicrwydd fforddiadwy ar gyfer defnyddwyr a’u teuluoedd.
Dywedodd y Technegydd, Terry Davies:
“Mae fy moddhad yn fy swydd yn deillio o wybod bod defnyddwyr gwasanaeth yn fwy diogel ac yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi ar ôl gosod llinell ofal / teleofal.”
Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau, Tracey Hargreaves-Jones:
“Rydym eisiau i unigolion a theuluoedd weld sut y gall Teleofal gefnogi pobl i fyw yn fwy annibynnol a diogel.
Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle i ofyn cwestiynau ac archwilio sut y gallwn ddarparu tawelwch meddwl bod cymorth ar gael bob amser.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae Teleofal yn darparu cefnogaeth allweddol i Breswylwyr yn Sir Ddinbych, gan eu caniatáu i fyw yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r diwrnod agored yn gyfle unigryw i breswylwyr ddod a darganfod mwy am y gwasanaeth gwych hwn.”