02/10/2025
Gwelliannau ffordd i gychwyn ar ‘Abergele Straights’

Mae disgwyl i adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych gychwyn gwaith ar gynllun mawr i gynnal a chadw ffordd a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a hynny ar Ffordd Abergele yr A547 rhwng Rhuddlan a chylchfan Borth.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi clustnodi 57 o leoliadau yn y sir mewn rhaglen gynnal a chadw ffyrdd dros ddwy flynedd a fydd yn elwa o gyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Nod y cyllid (£4.780m dros 2025/26 a 2026/27) yw gwella cyflwr arwyneb y ffordd ar rannau o rwydwaith ffyrdd y Sir.
Mae disgwyl i’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd ddigwydd rhwng 6 a 31 Hydref. Er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a 6am bob noson.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol fod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn am gyllid Llywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â rhan fawr o’n rhwydwaith, ynghyd â’r ffordd a elwir yn ‘Abergele Straights’, sydd angen ei wella”.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk