10/10/2025
Annog dysgwyr i ymarfer eu ‘Cymraeg yn y Coed’

Mae ceidwaid cefn gwlad y Cyngor yn parhau â’u teithiau tywys llwyddiannus, ‘Cymraeg yn y Coed’, yn ddiweddarach y mis hwn.
Trefnwyd mwy o deithiau cerdded – a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – yn dilyn llwyddiant teithiau tywys blaenorol o gwmpas rhai o leoliadau eiconig eraill y sir.
Bydd y daith gerdded, sydd wedi ei threfnu mewn partneriaeth â Menter Iaith gyda’r bwriad o gynnig mwy o gyfleoedd drwy’r Gymraeg yn Sir Ddinbych, yn cynnig cyfle unigryw i rai sy’n dysgu’r Gymraeg brofi eu sgiliau yn yr awyr agored, wrth fynd am dro byr drwy goetir lled-naturiol hynafol Loggerheads.
Cynhelir y digwyddiad hwn, sydd am ddim, yn Loggerheads ar 16 Hydref. Bydd yn cychwyn am 10:00am, ac mae croeso i rai sy’n dysgu Cymraeg ar bob lefel!
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r teithiau cerdded hyn yn ffordd wych o gefnogi’r Gymraeg ac maent wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol.
“Mae gennym leoliadau ardderchog i’w crwydro yn ardal y Tirweddau Cenedlaethol, ac fe anogir dysgwyr unwaith eto i ddod i ddysgu a meithrin eu hyder wrth siarad Cymraeg.”
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/o/clwydian-range-and-dee-valley-national-landscape-13973346491