Hydref 2025

09/10/2025

Ceidwaid Ifanc yn Dysgu am Waith Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru

Yn ddiweddar gwahoddwyd ceidwaid ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddysgu mwy am y gwaith allweddol mae tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud yn y gymuned.

Mae ceidwaid ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a sefydlwyd yn 2012, yn grŵp o bobl ifanc 11-18 oed sy’n cyfarfod yn fisol i ddysgu mwy am y dirwedd sydd ar garreg eu drws, cymryd rhan mewn tasgau cadwraeth ymarferol neu gynnal arolygon bywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored llawn hwyl.

Yn eu sesiwn ddiweddaraf, bu i’r grŵp ymweld â’r ganolfan achub mynydd leol yn yr Wyddgrug, ble cafodd y ceidwaid ifanc eu tywys o amgylch y ganolfan a dysgu am waith allweddol y tîm Achub Mynydd yn y gymuned.

Sefydlwyd yn wreiddiol yn 1981 fel Tîm Achub Clwyd, cyn newid i Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn 1994, mae’r elusen gofrestredig yn cynnwys grŵp o wirfoddolwyr sy’n cefnogi gwasanaethau’r heddlu ac ambiwlans mewn sefyllfaoedd o chwilio ac achub.

Yn ystod yr amser yn y ganolfan, bu i’r ceidwaid ifanc gymryd rhan mewn gweithdy chwilio ac achub a dysgu rhai technegau rhaff, roedd gwirfoddolwr ambiwlans Sant John hefyd yno i siarad am eu gwaith yn y gymuned a helpu i gyflwyno hyfforddiant CPR allweddol i’r grŵp.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Roedd hwn yn gyfle gwych i’r rhai oedd yn bresennol i ddysgu mwy am y gwaith pwysig mae tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud yn ein cymuned.

“Ers dechrau yn 2012, mae ein tîm cefn gwlad wedi gwneud gwaith gwych i hyrwyddo natur a’r awyr agored i’r genhedlaeth iau trwy’r grŵp ceidwaid ifanc ac roeddem yn ddigon ffodus o gynnal Gwersyll Ceidwaid Iau Rhyngwladol EUROPARK yn 2024.

“Mae’n amlwg bod y grŵp ceidwaid ifanc yn creu argraff fawr ar y rhai sy’n aelodau, gan fod nifer o’n cyn aelodau wedi parhau i wirfoddoli a gweithio gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad fel oedolion ifanc”.

I gael mwy o wybodaeth am y grŵp ceidwaid ifanc a sut i ymuno, cysylltwch ag Imogen Hammond ar imogen.hammond@denbighshire.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am y gwaith mae tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud ewch i: https://www.newsar.org.uk/

Comments