29/10/2025
Cronfa Allweddol CGGSDd yn helpu i gryfhau trydydd sector Sir Ddinbych

Helpodd Cronfa Allweddol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSD) i gynyddu cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadau trydydd sector ledled Sir Ddinbych.
Mae’r fenter yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol y llywodraeth, gan gynnwys grymuso cymunedau lleol, rhoi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Mae Cronfa Allweddol eleni, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, wedi gweld galw cryf, gyda 99 o geisiadau wedi’u cyflwyno gan amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol ar draws y sir.
Yn dilyn proses asesu drylwyr, roedd 45 ymgeisydd yn llwyddiannus gan sicrhau cyllid hanfodol i gryfhau eu gweithrediadau. Mae Cronfa Allweddol CGGSDd wedi dyfarnu cyfanswm o £212,114 mewn grantiau Cyfalaf a £633,906 arall mewn grantiau Refeniw.
Mae’r grantiau hyn wedi’u cynllunio i helpu i sicrhau cadernid a chynaliadwyedd hirdymor sefydliadau trydydd sector Sir Ddinbych, ac mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol.
Mae’r Gronfa Allweddol yn rhan ganolog o waith ehangach CGGSDd dan raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n rhedeg tan 31 Mawrth 2026. Ochr yn ochr â chyllid grant, mae CGGSDd yn darparu pecyn eang o gefnogaeth gan gynnwys:
- Sesiynau hyfforddiant, dosbarthiadau meistr a gweithdai am ddim
- Rhaglen gefnogaeth GROW i gryfhau trefniadau llywodraethu a chynllunio strategol
- Rhaglen fentora gyffrous, sy’n paru uwch weithwyr proffesiynol o’r sector corfforaethol a’r sector cyhoeddus â grwpiau trydydd sector sy’n chwilio am gefnogaeth wedi’i thargedu
Gan siarad am effaith y Gronfa Allweddol, dywedodd Tom Barham, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd):
“Rydym wrth ein boddau o ail-lansio’r Gronfa Allweddol a gweld diddordeb mor gryf gan sefydliadau ar dras Sir Ddinbych. Bydd y cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael trwy’r rhaglen hon yn helpu i gryfhau cadernid ein trydydd sector, gan alluogi grwpiau i dyfu, addasu a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’n wych bod cynifer o sefydliadau trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau mor hanfodol i’r Sir yn gallu cael eu cefnogi trwy ail-lansiad y Gronfa Allweddol yn ogystal â gwasanaethau eraill mae CGGSDd yn eu darparu. Mae hyn yn enghraifft wych o’r gwaith partneriaeth cryf sy’n bodoli rhwng y Cyngor a’r sector gwirfoddol, trwy CGGSDd.”
Mae’r Gronfa Allweddol yn dangos ymrwymiad CGGSDd i rymuso sefydliadau lleol, creu cymunedau cryfach a sicrhau bod y trydydd sector yn Sir Ddinbych yn barod i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.