Hydref 2025

07/10/2025

Plant y Sir yn dathlu llwyddiant Sialens Ddarllen yr Haf

Wrth i Sialens Ddarllen yr Haf arall ddod i ben, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall.

Mae gan Sialens Ddarllen yr Haf thema wahanol bob blwyddyn ac mae'n annog plant i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf, gan sicrhau eu bod yn barod am ddechrau gwych i'r tymor newydd yn yr hydref.

Eleni cymerodd 1479 o blant ran yn Her yr Ardd Stori yn Sir Ddinbych, gan fenthyca llyfrau i'w darllen a chasglu gwobrau ar hyd y ffordd.

Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau hwyliog mewn llyfrgelloedd i annog teuluoedd i ymweld a benthyca llyfrau – mwynhaodd darllenwyr ifanc yn Y Rhyl, Prestatyn a Rhuddlan gyfarfod â'r awdur lleol Damian Harvey, roedd amseroedd stori, sesiynau crefft a hyd yn oed sesiynau trin anifeiliaid, lle cafodd plant gyfarfod â gecko, miltroed enfawr a hyd yn oed neidr!

Ymunodd ein Ceidwaid Cefn Gwlad hefyd yn y sialens hefyd, gyda chrefftau ar thema natur yn Llangollen a stori yn yr ardd gymunedol yng Nghorwen.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych gweld cymaint o blant a theuluoedd ledled Sir Dinbych yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

“Nid yn unig y mae darllen er mwyn pleser yn cefnogi dysgu a hyder plant, ond mae hefyd yn sbarduno eu dychymyg a’u cariad at straeon a fydd yn aros gyda nhw am oes.

“Hoffwn ddiolch i staff ein llyfrgell, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd wedi gweithio mor galed i wneud Her eleni yn gymaint o lwyddiant, ac wrth gwrs i’r plant eu hunain am gymryd rhan gyda chymaint o frwdfrydedd.”

Diolch i bawb a gymerodd ran eleni, ac edrychwn ymlaen at wneud y cyfan eto'r flwyddyn nesaf!

 

Comments