Hydref 2025

23/10/2025

Hwyl Arswydus yng Ngharchar Rhuthun dros Calan Gaeaf

(Carchar Rhuthun)

Yn ystod hanner tymor mis Hydref eleni, bydd Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau hanesyddol ar gyfer wythnos o hwyl arswydus ac anturiaethau Ar Ôl Iddi Dywyllu, wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

O ddydd Sadwrn 25 Hydref i ddydd Gwener 31 Hydref, bydd y Carchar ar agor bob dydd o 11am – 4pm gan gynnig amrywiaeth o lwybrau Carchar arswydus newydd a chrefftau a gweithgareddau Calan Gaeaf gwych i’r teulu cyfan, i gyd wedi’i gynnwys yn y tâl mynediad arferol. 

I ymwelwyr mwy dewr, bydd agoriad hwyr y nos Ar Ôl Iddi Dywyllu yn cael ei gynnal tan 8pm ddydd Mercher 29 Hydref, dydd Iau 30 Hydref a dydd Gwener 31 Hydref gan roi’r cyfle i chi archwilio’r adeilad hanesyddol ar ôl i’r haul fachlud ac ymuno â thaith dywys dan olau tortsh i ddarganfod mwy am hanes y Carchar ac ochr arswydus ei orffennol diddorol (bydd y teithiau dan olau tortsh yn dechrau am 6pm). 

Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth:

“Mae Calan Gaeaf wastad yn amser cyffrous yng Ngharchar Rhuthun – mae awyrgylch yr adeilad yn gweddu’n dda i’r tymor arswydus ac rwy’n meddwl bod ein staff yn mwynhau dod ag ochr ddirgel ei orffennol yn fyw cymaint ag y mae ein hymwelwyr yn mwynhau ei ddarganfod!

“Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at allu cynnig nosweithiau agored hwyr y nos Ar Ôl Iddi Dywyllu eleni, gan roi cyfle prin i ymwelwyr brofi’r Carchar ar ôl i’r haul fachlud, a gobeithio y bydd yn Galan Gaeaf bythgofiadwy i bawb sy’n ymweld.” 

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n newyddion gwych y bydd y Carchar ar agor dros gyfnod Calan Gaeaf, mae’n lle gwych i gynnal digwyddiad o’r fath. Fe fydd ganddynt ddigonedd o weithgareddau, felly dwi’n annog teuluoedd i ddod draw ac ymuno yn yr hwyl.

“Rydym am i bob ymwelydd, waeth beth fo’u hoedran, allu profi hanes y Carchar, a bydd y gweithgareddau Calan Gaeaf yn gyfle perffaith i wneud hynny.”

Codir ffioedd mynediad arferol ar gyfer ymweliadau yn ystod y dydd ac ymweliadau Ar Ôl Iddi Dywyllu. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw ond gellir dod o hyd i fanylion i’ch helpu chi i drefnu ymweliad yn https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol.aspx.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk 

Comments