Hydref 2025

01/10/2025

Gwobr i warchodfa Rhuddlan am gefnogi natur

Mae partneriaeth gymunedol wedi derbyn gwobr genedlaethol am ei chefnogaeth barhaus i natur mewn safle poblogaidd yn Rhuddlan.

Cafodd Gwarchodfa Natur Rhuddlan ei gwobrwyo yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 yn Wrecsam. 

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan ers 2011 i reoli’r safle ar y cyd, er mwyn helpu natur i ffynnu a sicrhau lle gwych ar gyfer lles cymunedol. 

O ganlyniad i weledigaeth y grŵp a sgiliau’r ceidwaid cefn gwlad sy’n gweithio ar y safle, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi ehangu a datblygu dros y blynyddoedd ac wedi cyflwyno mentrau sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo pyllau.

Mae man sy'n deall dementia wedi'i greu ar y safle hefyd sy’n cynnwys nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol fel waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi'u plygu ynghyd â seddi coed derw Cymreig traddodiadol.

Mae bywyd gwyllt lleol yn ffynnu yn y warchodfa, gwelwyd rhywogaethau eiconig fel dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr ar y safle ac mae’r rhain, digwydd bod, ymhlith y mamaliaid sy'n gostwng gyflymaf mewn nifer yn y DU.

Dyfarnodd Cymru yn ei Blodau wobr Lefel 5 ‘Rhagorol’ i’r bartneriaeth yn y Categori Eich Cymdogaeth Chi, sef cynllun ar gyfer grwpiau garddio cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar lanhau a gwneud eu hardal leol yn fwy gwyrdd.

Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan: “Hoffwn ddiolch o galon i holl aelodau’r pwyllgor am eu gwaith cadarnhaol a rhagweithiol ar gyfer y warchodfa.  Mae holl aelodau’r pwyllgor yn mynd yr ail filltir.

“Rwyf hefyd eisiau canmol Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a’u tîm o geidwaid a gefnogir gan wirfoddolwyr gwych am eu hymroddiad llwyr i gynnal y warchodfa wrth geisio ymdopi â’u holl ymrwymiadau eraill yn ymwneud â’r warchodfa natur yng Ngogledd Sir Ddinbych.” 

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma gydweithio gwych gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi sicrhau digonedd o gefnogaeth i natur leol a’r gymuned sy’n dod i fwynhau’r safle hwn yn rheolaidd.

“Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y safle cymunedol pwysig hwn yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.” 

 

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn gwbl hygyrch i bawb.  Mae’r safle wedi’i drawsnewid yn lleoliad perffaith i fywyd gwyllt ffynnu ac yn ardal hamdden ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.

Mae’r llwybr byr yn eich tywys chi o amgylch y pyllau, lle mae adar yn nythu bob blwyddyn a’r dolydd, lle mae gwelliannau wedi’u gwneud yn ddiweddar mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac ysgolion.

Ceir rhagor o wybodaeth am gystadlu yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, ‘Eich Cymdogaeth Chi’ drwy glicio ar y ddolen hon https://www.walesinbloom.org/neighbourhood.html

 

 

Comments