Hydref 2025

02/10/2025

Dathlu pen-blwydd AHNE drwy baentio Piler Triongli

(Piler triongli Moel Famau)

Eleni, mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dathlu 40 mlynedd ers dod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. 

I ddathlu’r garreg filltir hon, mae’r piler triongli ar gopa Moel Famau wedi’i baentio. 

Wedi’i gwblhau gan David Setter (@doodleplanet), sydd wedi dylunio murluniau a chynnal gweithdai yn Loggerheads yn flaenorol, mae’r gwaith celf yn darlunio grugiar du, gylfinir ac ehedydd, sydd i gyd yn adar sy’n nythu ar y ddaear sy’n creu rhywfaint o’r seinwedd y byddwch yn ei glywed trwy gydol y gwanwyn ym Mryniau Clwyd.

Wedi’u codi’n wreiddiol gan Arolwg Ordnans yn 1935, mae pileri triongli yn bileri concrid a gafodd eu lleoli yn strategol i helpu i ail driongli Prydain Fawr yn gywir, gan ffurfio asgwrn cefn creu mapiau modern.

Wedi’i ddylunio yn 1985 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cwmpasu dros 390 cilometr sgwâr o rai o dirluniau mwyaf bendigedig y DU.

O lethrau arfordirol llechweddau Prestatyn yn y gogledd i fryniau anghysbell y Berwyn a thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn y de, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dirlun gwrthgyferbyniol sy’n aros i gael ei ddarganfod.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae harddwch naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn anhygoel.  Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i gael rhywfaint o dawelwch a llonyddwch wrth fwynhau’r olygfa a’i phrydferthwch, ac fel trigolion Sir Ddinbych rydym yn lwcus iawn o gael golygfa cystal ar ein stepen drws”.

Am fwy o wybodaeth am Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, cliciwch yma

Comments