01/10/2025
Coeden dderw hanesyddol yn cael ail gyfle
Mae coeden dderw hanesyddol yn Rhuthun yn cael ail gyfle mewn bywyd ar ôl i Storm Darragh ei thynnu i lawr.
Roedd yr hen goeden, a gredir sydd dros 500 mlwydd oed, yn cael ei hedmygu’n fawr gan bobl leol ac ymwelwyr â Chae Ddôl ac roedd yn amlwg yn y parc am genedlaethau.
Ers hynny, mae tîm coed Cyngor Sir Ddinbych, wrth weithio gyda Gwasanaethau Stryd, wedi gorffen gwaith i glirio tocion a phren a ddifrodwyd o’r safle ac rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau'r cam olaf o brosesu’r goeden dderw.
Bydd boncyff y goeden a ddisgynnodd yn aros yn ei safle hanesyddol yng nghalon Cae Ddôl a bydd yn cael ei gerflunio i greu sedd i bobl edmygu ei faint a’i statws, tra bydd ei ganghennau mawr yn cael eu cerflunio i greu meinciau unigryw wedi eu trefnu o amgylch y boncyff i greu man eistedd newydd.
Gan fod y derw wedi ei amddiffyn gan Orchymyn Diogelu Coed, bydd coeden dderw newydd yn cael ei phlannu yng nghanol y man eistedd newydd, sy’n dynodi dechreuad newydd yn y parc.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd tröwr coed lleol hefyd yn cael ei gomisiynu i greu eitemau bach megis llwyau a phowlenni o’r pren llai.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Hoffem ddiolch i Jones Bros o Ruthun sydd wedi cyflenwi a gosod y ffensys amddiffyn o amgylch y goeden dderw a ddisgynnodd i ganiatáu i’r tir sychu wrth i’r tîm roi cynlluniau ar waith ar gyfer dyfodol y goeden dderw.
“Rydym yn deall pa mor arwyddocaol oedd yr hen goeden dderw i Gae Ddôl, a gobeithiwn trwy ddefnyddio pren yr hen goeden dderw i greu ardal ar yr un safle, y bydd yn caniatáu i ymwelwyr gadw cysylltiad gyda’r hen goeden.
“Gobeithir y bydd y lle a’r cerflun yn esblygu dros amser gyda chefnogaeth grwpiau cymunedol lleol, ac wrth i’r goeden dderw newydd dyfu.”