01/10/2025
Parc Drifft newydd yn agor yn swyddogol
Cafodd Parc Drifft ar Bromenâd y Rhyl ei agor yn swyddogol ar 30 Medi, gyda chymorth ysgol leol a roddodd help llaw gyda dyluniad yr ardal chwarae newydd.
Y Cynghorwyr Barry Mellor ag Alan James, swyddogion o Gyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â chynrychiolwyr o Balfour Beatty a Kompan UK.
Mae’r ardal chwarae newydd, sydd wedi cael ei ailddylunio yn rhan o Waith Amddiffynfeydd Môr gerllaw, yn cynnwys dyluniad newydd sbon a ddewiswyd gan y gymuned, a thema chwaraeon a ‘morwrol’ newydd, yn unol â’i agosatrwydd at draeth enwog y Rhyl.
Roedd Cynghorwyr o ardal y Rhyl, swyddogion o Gyngor Sir Ddinbych, a myfyrwyr o Ysgol Tir Morfa, yn ogystal â chynrychiolwyr o Balfour Beatty a Kompan UK yn bresennol yn y seremoni agoriadol.

Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn agor y Parc.
Mae’r ardal chwarae newydd wedi cael ei adeiladu gyda hygyrchedd a chynwysoldeb mewn golwg, ac mae’n cynnwys cylchfan gynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn yn yr ardal chwarae, ystod o baneli chwarae cynhwysol ar thema forwrol, si-so ar thema’r môr a llithren fawr ar thema llong fôr-ladron gyda grisiau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Mae mwy na 55 o nodweddion chwarae yn y parc newydd ac mae lle i 170 o ddefnyddwyr.
Fe agorodd y gofod i’r cyhoedd mis dwythaf, ac roedd hi’n benwythnos agoriadol prysur iawn wrth i blant lleol brofi eu hardal chwarae newydd.
Y Parc newydd o'r awyr.
Mae offer campfa ac ymarfer corff awyr agored i oedolion wedi’u gosod hefyd, drws nesaf i’r parc. Maen nhw wedi’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect gwaith amddiffynfeydd môr mwy, ynghyd ag Ardal Chwarae newydd Parc Drifft.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae gweld yr ardal chware yma wedi agor yn swyddogol yn rhoi pleser mawr i mi.
Mae’r gofod newydd wedi’i adeiladu gyda phob gallu mewn golwg, ac mae’r thema ‘morwrol’ newydd yn cyd-fynd â’r lleoliad mor dda.
Fe hoffwn i ddiolch i swyddogion ac i’n partneriaid am eu gwaith ar y prosiect hwn, yn ogystal â’r gymuned leol am eu hawgrymiadau a syniadau. Mae hi’n wych gallu agor y gofod newydd ar ei newydd wedd yn swyddogol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Kompan UK:
“Rydym ni’n eithriadol o falch gyda’r Ardal Chwarae ac ardal Ffitrwydd Awyr Agored ym Mharc Drifft, a gobeithio bod y gymuned leol wrth eu boddau fel yr ydym ni, ac y byddant yn mwynhau chwarae, cymdeithasu a bod yn heini gyda’i gilydd am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Andrew Carson, Cyfarwyddwr Portffolio yn Balfour Beatty:
“Rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno’r Parc Drift newydd, gan greu parc sydd nid yn unig yn hwyl ond yn hygyrch ac yn ddiogel i bob plentyn a theulu.
Mae gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Dinbych, ysgolion lleol, a’r gymuned i wireddu eu syniadau wedi bod yn hynod werthfawr.”
Dywedodd Wendy Williams, athrawes dosbarth yn Ysgol Tir Morfa:
“Mae’r disgyblion wrth eu bodd â’r parc ac rwy’n caru’r parc! Y prif beth rwy’n ei hoffi yw bod y gymuned wedi bod yn rhan o’r gwaith – gofynnwyd iddyn nhw beth maen nhw ei eisiau yn y parc ac mae’n gynhwysol iawn.”