28/10/2026
Canolfan gofal plant yn derbyn cludiant gwyrdd

Mae canolfan gofal plant yn y Rhyl wedi croesawu dull gwyrdd o deithio er mwyn cynorthwyo â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu.
Mae Gwasanaethau Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi trosglwyddo Bws Mini Toyota ProAce Verso 9 Sedd trydan i Ganolfan y Dderwen.
Mae’r cerbyd hwn yn rhan o waith parhaus Gwasanaethau Fflyd y Cyngor i symud at lai o ddibyniaeth ar gerbydau sy’n llosgi tanwydd lle y bo’n briodol i helpu i dorri lawr ar gostau rhedeg a chynnal a chadw a llai o allyriadau carbon cyffredinol.
Ar ôl i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019, mae’r Gwasanaethau Fflyd wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.
Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.
Bydd y bws mini trydan, sy’n gallu teithio am dros 200 milltir, yn cefnogi’r ganolfan sy’n darparu gwasanaeth gofal plant Little Acorns, gwasanaeth Ceidwaid Chwarae, ac mae hefyd yn cynorthwyo â darpariaeth gwybodaeth i deuluoedd. Mae’r cerbyd wedi’i gefnogi’n rhannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Mae’r ychwanegiad yma’n golygu bod gan Ganolfan y Dderwen fflyd o 5 cerbyd trydan.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y bws mini yn helpu staff Canolfan y Dderwen i gynnal eu darpariaeth o wasanaethau i blant a’u teuluoedd yn y Rhyl a’r dalgylch, tra’n darparu milltiredd gwyrddach i’r ganolfan gofal plant, lleihau costau hirdymor ar gyfer milltiroedd a chynnal a chadw rheolaidd.”