Hydref 2026

13/10/2026

Disgyblion Ysgol Pen Barras yn dysgu am bŵer ailgylchu

Cafodd disgyblion Ysgol Pen Barras eu cyflwyno i ddau fasgot newydd sy’n gweithio i helpu i ailgylchu yn y gymuned, yn ystod ymweliad arbennig.

Daeth Tîm Addysg Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych â’r pwnc yn fyw trwy drafodaethau a gweithgareddau ymarferol wedi’u cynllunio i gynyddu gwybodaeth a hyder disgyblion yn ystod ymweliad deuddydd â’r ysgol.

Bu disgyblion yn dysgu beth sy’n digwydd i ddeunydd y mae modd ei ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu a buont yn rhannu syniadau am sut gall lleihau gwastraff fod o fudd i aelwydydd, cymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.

Cafodd y masgotiaid ailgylchu, Troli-bob a Cadi groeso cynnes gan y grwpiau blwyddyn, gan helpu disgyblion i nodi eitemau cyfarwydd y cartref a phenderfynu ym mha gynwysyddion ailgylchu y dylent fod.

Roedd digonedd o waith tîm wrth i’r plant gymryd rhan mewn gêm ddidoli ymarferol gyda phapur, caniau, plastigau cymysg, poteli gwydr a jariau. Roedd y gweithgaredd hwn yn dangos sut mae gwahanu eitemau’n ofalus yn golygu bod deunydd gwerthfawr yn dal i gael ei ddefnyddio, gan helpu i leihau gwastraff.

Un o uchafbwyntiau’r ymweliad oedd pan gafodd y disgyblion gyfle i gwrdd ag un o gerbydau’r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sydd ag enw, a ddefnyddir i gasglu deunydd i’w ailgylchu o gartrefi ar draws Sir Ddinbych.

Wrth fwynhau gweld y cerbyd yn agos, gwelodd disgyblion sut mae rhannau ar wahân yn cadw deunydd ar wahân yn ystod casgliadau, cyn iddynt fynd i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych i’w prosesu.

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynwyd system Trolibocs y Cyngor hefyd, sy’n helpu i ddidoli papur, caniau a phlastigau cymysg, a photeli gwydr a jariau ar ymyl y palmant. Cafodd disgyblion gyfle i weld sut mae ailgylchu’n gywir adref yn gwella ansawdd deunydd a gaiff ei gasglu ac yn cefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn Ysgol Pen Barras yn gofyn cwestiynau, cefnogi ei gilydd a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Gobeithio eu bod yn teimlo’n falch o’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu a’u bod wedi mynd â’r brwdfrydedd adref, gan wybod bod pob eitem a gaiff ei hailgylchu’n gywir yn gallu gwneud gwahaniaeth.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae ymweliadau fel hyn yn rhoi ffordd gofiadwy i ddisgyblion weld sut mae ailgylchu’n gweithio. Roedd yn wych clywed bod Ysgol Pen Barras wedi croesawu’r sesiwn, a gobeithio y bydd y disgyblion yn rhannu eu gwybodaeth newydd gyda theulu a ffrindiau wrth i ni gydweithio i ailgylchu mwy a gwastraffu llai.”

Comments