14/10/2026
Digwyddiadau Calan Gaeaf Hwyliog i’r Teulu i’w cynnal yn Llangollen a Chorwen
Bydd dau ddigwyddiad Calan Gaeaf i’r teulu yn cael eu cynnal yn ne Sir Ddinbych dros wyliau hanner tymor yr hydref.
Bydd y ddau ddigwyddiad ar agor i bob teulu ac fe’u cynhelir gan dîm Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg y cyngor. Byddant yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau Calan Gaeaf a Hydrefol, gan gynnwys celf a chrefft a mwy.

Cynhelir y ddau ddigwyddiad yng nghanolfannau timau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg priodol yr ardal leol, a byddant yn rhad ac am ddim.
Cynhelir y digwyddiad cyntaf ddydd Mercher 28 Hydref yn Llygadog, Clawdd Poncen, Corwen o 10am tan 12pm.
Bydd yr ail ddigwyddiad yng nghanolfan ieuenctid Llangollen ddydd Gwener 30 Hydref o 10am tan 12pm.
Yn ogystal â gweithgareddau ar themâu Calan Gaeaf a’r Hydref, bydd cyfle i deuluoedd ddod yn agos at amrywiaeth eang o greaduriaid cennog a chreaduriaid bach, gan y bydd Scaly Safari, sy'n cynnig profiadau tawel a moesegol gydag ymlusgiaid, yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad.
Meddai llefarydd ar ran tîm Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg y cyngor:
“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am gynnal y digwyddiadau hyn yng Nghorwen a Llangollen dros y gwyliau hanner tymor. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiadau fel hyn yn ein canolfannau, a gobeithiwn y bydd teuluoedd yn dod draw i ddathlu gyda ni.
Nid oes angen archebu lle a gall teuluoedd ddod yn eu gwisgoedd dychrynllyd os hoffent!”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae darparu gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn ystod gwyliau ysgol yn hanfodol.
Bydd y ddau ddigwyddiad yma ar agor i bob teulu a bydd yn gyfle iddyn nhw gael adnoddau hwyliog am ddim yn ystod wythnos hanner tymor mis Hydref.”