20/10/2026
Cyngor yn ehangu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 7 ac 8

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ehangu prydau ysgol am ddim, a bydd disgyblion cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn gallu cael y gefnogaeth o 2 Tachwedd 2026.
Fe gyflwynwyd y newid hwn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y bydd disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 sy’n byw mewn aelwyd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu cael prydau ysgol am ddim o’r dyddiad cychwyn ym mis Tachwedd.
Caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i ymgeisio cyn 2 Tachwedd 2026 er mwyn i’w cais gael ei asesu, a bod cefnogaeth ar waith erbyn pan fydd yr ehangiad yn dechrau.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen cyflwyno cais arall.
Gall rhieni a gofalwyr hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eu plentyn os ydynt yn derbyn unrhyw un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Incwm
- Elfen Credyd Pensiwn y Credyd Gwarant
- Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Cynhwysol, pan mae’r plentyn yn yr ysgol gynradd ac enillion net blynyddol yn ddim mwy na £7,400
- Credyd Cynhwysol, pan mae’r plentyn ym Mlwyddyn 7 neu 8 yn yr ysgol uwchradd, o 2 Tachwedd 2026
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu ehangu prydau ysgol am ddim yn Sir Ddinbych. Gall prydau ysgol am ddim wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, gan helpu i leddfu pwysau ar gyllidebau aelwydydd tra’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad at bryd bwyd maethlon yn ystod y diwrnod ysgol.
“Rydw i wir yn annog pob rhiant a gofalwr cymwys i fanteisio ar y gefnogaeth hon ac ymgeisio cyn 2 Tachwedd. Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen cyflwyno cais arall.”
Gall rhieni a gofalwyr sydd â phlant sy’n mynychu ysgol yn Sir Ddinbych wneud cais ar-lein am brydau ysgol am ddim yma