12/10/2026
Noswaith o gerddoriaeth gitâr clasurol yn Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol
Roedd noson o gerddoriaeth gitâr clasurol yn safle hanesyddol Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol, gyda phob un tocyn i’r perfformiad wedi’i werthu.
Perfformiodd y gitarydd poblogaidd Jonathan Richards i dŷ llawn yn Nantclwyd y Dre, gan gyflwyno rhaglen ddifyr ac amrywiol a oedd yn cyfuno gwaith o gyfnod y dadeni a gwaith traddodiadol gan y meistri o Sbaen, Isaac Albéniz ac Enrique Granados, a detholiad o gyfansoddiadau gwreiddiol Jonathan ei hun.

Croesawodd y gynulleidfa berfformiad mynegiannol Jonathan, a lwyddodd i greu awyrgylch clyd a dangos amrywiaeth y gitâr clasurol.
Roedd y cyngerdd yn rhan o gyfres o berfformiadau clasurol Nantclwyd y Dre a’r rhaglen ddigwyddiadau ehangach, sydd â’r nod o barhau â thraddodiad y tŷ fel lle i ddathlu’r celfyddydau.
Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu Jonathan Richards i Nantclwyd y Dre a gweld y tŷ yn llawn o bobl yn mwynhau’r perfformiad. Cafodd groeso cynnes iawn, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Nantclwyd y Dre y flwyddyn nesaf am noson arall o gerddoriaeth gitâr clasurol.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae Nantclwyd y Dre yn sefydliad sydd â gwerth hanesyddol sylweddol, ac mae’n bwysig ein bod yn cofio ac yn dathlu’r hanes sydd ar garreg ein drws. Mae digwyddiadau fel y rhain yn cynnig ffordd amgen i fwynhau’r tŷ, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl eraill i ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”
Yn dilyn llwyddiant cyngerdd eleni, bydd Jonathan Richards yn dychwelyd i Nantclwyd y Dre y flwyddyn nesaf, gan roi cyfle arall i gynulleidfaoedd brofi ei berfformiad yn amgylchedd unigryw y tŷ hanesyddol.
Caiff rhagor o fanylion am berfformiad y flwyddyn nesaf eu cyhoeddi maes o law. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy treftadaeth@sirddinbych.gov.uk.