Hydref 2026

07/10/2026

Gwaith yn datblygu’n dda ar brosiect £2.7 miliwn ar gyfer hwb cymunedol ac estyniad i Ysgol Bro Elwern

Mae gwaith adeiladu ar brosiect estyniad a hwb cymunedol yn Ysgol Bro Elwern yng Ngwyddelwern yn datblygu’n dda, gyda disgwyl trosglwyddiad o’r safle yn niwedd hydref.

Prosiect estyniad a hwb cymunedol yn Ysgol Bro Elwern

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd y hwb Cymunedol yn darparu gofod hyblyg ar gyfer preswylwyr lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Bydd y cyfleuster yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a gofod neuadd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a chymunedol, gan greu cyfleoedd i sefydliadau allanol logi’r lleoliad.

Bydd y hwb yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Rheoli dynodedig yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol lleol.

Caiff y prosiect gwerth £2.7 miliwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant Cyfalaf yr Iaith Gymraeg a Phrydau Ysgol am Ddim i ddarparu ystafell ddosbarth newydd a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, ac mae'r hwb cymunedol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o gyllid grant ar gyfer 10 o brosiectau cyfalaf sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun.

Mae cyfran sylweddol o waith adeiladu’r hwb Cymunedol wedi cael ei gwblhau, gyda’r gwaith i osod yr ardaloedd mewnol yn mynd rhagddo.

Y tu mewn i'r ganolfan gymunedol

Mae gwaith diweddar wedi cynnwys gosod y gegin gymunedol. Roedd y gwaith gosod yn cynnwys gosod unedau cypyrddau ac oergell a rhewgell cyfun. Bydd y gwaith gosod popty, ffan echdynnu a’r ystafell gyfleustodau yn cael ei gwblhau’n fuan.

Bydd yr estyniad i’r dosbarth yn darparu gwelliant sylweddol i’r gofod addysgu ac yn rhoi gofod ategol i’r ysgol.

Tu mewn y dosbarth newydd

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae gwaith yn datblygu’n dda ar y prosiect hwn, gyda disgwyl i’r trosglwyddiad ddigwydd yn niwedd Hydref.

Mae disgwyl mawr wedi bod am y prosiect yma, a bydd yn darparu gofod gwerthfawr, nid yn unig i’r ysgol, ond y gymuned ehangach hefyd.

Bydd y buddsoddiad yn y cyfleuster newydd hwn yn galluogi preswylwyr a disgyblion i ffynnu, gyda chegin gymunedol fodern, ystafelloedd cyfarfod a neuadd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a chymunedol.

Mae cegin gelf o’r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, yn ogystal â dosbarth newydd hefyd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect hwn.”

Dywedodd Catrin Phillips, Pennaeth Ysgol Bro Elwern:

“Mae hi wedi bod yn wych gweld y prosiect hwb cymunedol a’r estyniad yn Ysgol Bro Elwern yn datblygu cystal.

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yn nodi pennod newydd i’n hysgol, ac rydym wrth ein boddau gyda’r cyfleoedd y bydd hyn yn ei ddarparu i’n disgyblion a’r gymuned ysgol ehangach. Fel ysgol, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwneud y prosiect yn bosibl.”

Comments