06/10/2026
Gwaith i ddechrau ar symud compownd arfordirol y Rhyl
Bydd gwaith yn cychwyn cyn bo hir i gael gwared â’r compownd safle a osodwyd ac a ddefnyddiwyd yn ystod y cynllun amddiffyn arfordirol ym Marine Drive, y Rhyl.
Bwriedir cychwyn y gwaith adeiladu ar 26 Hydref 2026 a disgwylir y bydd wedi’i gwblhau erbyn dydd Gwener 13 Tachwedd 2026, yn amodol ar y tywydd ac unrhyw amgylchiadau annisgwyl.
Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â’r llawr caled yn y compownd ac adfer y safle i’w gyflwr blaenorol.
Bydd y palisau a’r ffensys yn aros yn eu lle dros dro, er mwyn diogelu’r safle tra bydd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo. Ar ôl ei gwblhau, bydd y safle’n cael ei ailagor i’r cyhoedd ei ddefnyddio er dibenion hamdden.
Bydd prif elfennau’r gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys:
- Clirio’r safle’n gyffredinol.
- Cael gwared â’r llawr caled presennol gan ddefnyddio peiriant plaenio ffyrdd.
- Llenwi’r safle gyda’r gweddillion.
- Cloddio’r isbridd sydd eisoes wedi’i bentyrru.
- Llenwi’r safle gyda’r isbridd presennol.
- Cael gwared â’r fynedfa gerbydau bresennol oddi ar Marine Drive ac adfer y droedffordd.
- Codi ffensys.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch o allu dechrau gwaith i adfer y compownd hwn i’w gyflwr blaenorol cyn y gwaith ar amddiffynfeydd llifogydd arfordirol. Rwy’n gwybod bod preswylwyr lleol wedi bod yn awyddus i weld hyn yn digwydd a bydd y gwaith hwn yn galluogi’r cyhoedd i ddefnyddio’r ardal unwaith eto.
“Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r gwaith mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar bawb yn yr ardal gyfagos.”