Hydref 2026

29/10/2026

Newidiadau i wasanaethau ffôn - Cymorth ar gael i drigolion Sir Ddinbych

Mae trigolion Sir Ddinbych, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu hannog i ofyn am gyngor os ydynt yn ansicr ynghylch newidiadau i’w gwasanaethau ffôn wrth i’r DU symud o linellau ffôn traddodiadol i systemau ffôn digidol sy’n defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae’r newidiadau’n golygu bod gwasanaethau ffôn traddodiadol sy’n defnyddio ceblau copr yn cael eu diffodd, a bod darparwyr yn symud cwsmeriaid i wasanaethau ffôn digidol sy’n defnyddio cysylltiad rhyngrwyd i wneud a derbyn galwadau.

I lawer o gartrefi, yn enwedig y rhai sydd â chysylltiad band eang ffibr cyflym, dylai’r newid fod yn un syml. Fodd bynnag, gall trigolion sydd â chysylltiad rhyngrwyd araf neu annibynadwy gael gwybodaeth ddryslyd neu wybodaeth sy’n gwrth-ddweud ei gilydd gan eu darparwyr gwasanaethau ffôn a rhyngrwyd ynghylch beth mae’r newidiadau’n ei olygu iddynt.

O dan reolau Ofcom, rhaid i ddarparwyr ddilyn gofynion penodol wrth symud cwsmeriaid i wasanaethau ffôn digidol. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu gadael heb wasanaeth ffôn, rhoi amddiffyniad ychwanegol i bobl sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed, a sicrhau bod tariffau cymdeithasol yn parhau i fod ar gael i gwsmeriaid cymwys sydd ar incwm isel neu sy’n derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Cynhwysol.

Peth pwysig arall i’w ystyried yw beth sy’n digwydd yn ystod toriad pŵer. Yn gyffredinol, mae llinellau ffôn traddodiadol yn cael eu pweru drwy’r rhwydwaith ffôn, ond mae gwasanaethau ffôn digidol yn dibynnu ar drydan i bweru’r llwybrydd a’r offer cysylltiedig. Mae hyn yn golygu, heb gyflenwad pŵer wrth gefn addas, efallai na fydd ffôn digidol yn gweithio yn ystod toriad pŵer.

Anogir trigolion sy’n poeni am eu gwasanaeth ffôn, sydd wedi derbyn gwybodaeth ddryslyd gan eu darparwr neu nad ydynt yn siŵr a yw eu cysylltiad rhyngrwyd yn addas ar gyfer y newid i ofyn am gyngor.

Mae Philip Burrows, Swyddog Digidol a Thechnolegau Newydd Cyngor Sir Ddinbych, ar gael i helpu trigolion i ddeall y newidiadau, ystyried eu dewisiadau a dod o hyd i wybodaeth bellach.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Rydym yn deall y gall newidiadau i wasanaethau ffôn fod yn ddryslyd, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle nad yw cysylltiadau rhyngrwyd bob amser yn ddibynadwy.

“Mae’n bwysig bod trigolion yn deall beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu iddynt ac yn gwybod ble i droi os oes ganddynt bryderon. Er y bydd y newid i wasanaethau ffôn digidol yn syml i lawer o gartrefi, mae’n bwysig bod pobl a allai gael eu heffeithio gan gysylltedd gwael, toriadau pŵer neu broblemau eraill yn cael y cyngor a’r cymorth cywir.

“Os nad ydych yn siŵr am unrhyw wybodaeth rydych wedi’i chael gan eich darparwr ffôn neu rhyngrwyd, neu os hoffech ddeall eich dewisiadau yn well, cysylltwch â’n Swyddog Digidol a Thechnolegau Newydd, Philip Burrows, a fydd yn hapus i helpu.”

Gall trigolion gysylltu â Philip drwy e-bostio philip.burrows@sirddinbych.gov.uk.

Comments