21/10/2026
Gwaith arloesol i wella cysylltedd digidol ar draws y sir yn datblygu

Mae gwaith arloesol i wella rhwydweithiau ffonau symudol ar draws Sir Ddinbych wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf.
Mae tîm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio ar brosiect i wneud defnydd da o asedau’r awdurdod lleol i roi hwb i rwydweithiau ffonau symudol ar draws y sir.
Mae’r Cytundeb Mynediad Agored hwn yn caniatáu i’r Cyngor wneud asedau penodol, polion goleuadau stryd yn bennaf, ar gael ar gyfer gosod technoleg symudol cell fach i wella signal.
Mae’r celloedd bach yn helpu â chynyddu capasiti heb fod angen isadeiledd mawr. Ar ôl eu gosod mae ganddynt y capasiti i wella cysylltedd digidol ar gyfer preswylwyr a busnesau, gan gynnig mynediad gwell i’r rhyngrwyd.
Ar ôl llofnodi cytundeb, bydd gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol yn penderfynu a fyddai gosod eu celloedd bach ar asedau’r cyngor yn rhoi hwb i’w rhwydwaith.
Mae cytundeb cyntaf y broses hon bellach wedi’i lofnodi gan Ontix, sydd eisoes wedi gosod pedwar o safleoedd cell fach ar draws Sir y Fflint i roi hwb i gysylltedd.
Bydd y Cyngor yn cadw rheolaeth lawn dros yr asedau y gellid eu defnyddio ar gyfer gosod celloedd bach i sicrhau bod y gwaith gosod yn cyrraedd yr holl safonau technegol, diogelwch a gweithredol.
Mae unrhyw ddatblygiad o dechnoleg cell fach yn niwtral o ran cost i’r Cyngor, bydd gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol yn talu ffi flynyddol a gytunwyd arni am osod y celloedd bach ar asedau.
Bydd pob Cytundeb Mynediad Agored yn gweithredu am gyfnod cychwynnol o 15 mlynedd, gan roi sefydlogrwydd i weithredwyr sy’n ystyried buddsoddi a chynnig eglurder hirdymor i’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae llofnodi ein Cytundeb Mynediad Agored Cyntaf gydag Ontix yn garreg filltir bwysig o ran y gwaith arloesol hwn i wella cysylltedd digidol ar gyfer preswylwyr a busnesau ar draws Sir Ddinbych. Mae’n darparu sylfaen gref i weithredwyr symudol ystyried defnyddio asedau addas y Cyngor i wella eu rhwydweithiau, tra ein bod ni’n cadw rheolaeth lawn i sicrhau fod y gwaith gosod yn cyrraedd yr holl safonau technegol, diogelwch a gweithredol.
“Wrth i gytundebau pellach ddatblygu, fe allai’r potensial i ddefnyddio celloedd bach helpu busnesau presennol i gysylltu’n fwy effeithiol, annog buddsoddiad a gwella mynediad at gyfer cymunedau, yn cynnwys preswylwyr mewn ardaloedd gwledig sydd wedi profi cysylltedd cyfyngedig yn y gorffennol. Bydd hyn yn cefnogi ein huchelgais i ddatblygu safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol ar draws y sir.”