Hydref 2026

28/09/2026

Gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud am ddyheadau ailgylchu y Sir

Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am ddatblygu cynllun pum mlynedd newydd ar gyfer ailgylchu a gwastraff yn Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llunio dogfen a fydd yn nodi sut maen bwriadu rheoli ailgylchu a gwastraff yn y Sir dros y pum mlynedd nesaf.

Mae newidiadau sydd i ddod i ganllawiau cenedlaethol ar gyfer ailgylchu yn golygu ei bod hi’n hanfodol fod y Cyngor yn blaengynllunio ac yn sicrhau bod y gwasanaethau ailgylchu sy’n cael eu cynnig yn ddibynadwy, yn addas at y dyfodol ac yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr.

Mae’r Cyngor wedi gosod set o brif flaenoriaethau o amgylch y meysydd canlynol:

  • Atal a lleihau gwastraff: mae’r Cyngor angen sicrhau ei fod yn helpu preswylwyr i wneud dewisiadau sydd yn atal gwastraff rhag cael ei greu yn y lle cyntaf
  • Ailddefnyddio a thrwsio: mae’r Cyngor angen ystyried ffyrdd y gall helpu preswylwyr i wneud y defnydd gorau o eitemau maen nhw eisoes yn berchen arnynt
  • Ailgylchu: mae’r Cyngor angen cyrraedd targed ailgylchu o 70% cyn gynted â phosibl

 

Er mwyn helpu i lywio’r cynllun, mae’r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad sydd yn canolbwyntio ar ddau beth:

  • Gofyn i breswylwyr edrych ar fersiwn ddrafft o gynllun gweithredu ar gyfer pob un o’r meysydd blaenoriaeth a nodi a ydynt yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion
  • Bydd y Cyngor yn gofyn cwestiynau i breswylwyr am eu harferion ailgylchu personol i geisio deall beth sy’n ysgogi pobl i ailgylchu, a beth allai atal pobl rhag ailgylchu

Mae’r ymgynghoriad ar agor i holl breswylwyr Sir Ddinbych tan ddydd Sul 18 Hydref 2026.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Ailgylchu a Gwastraff yw un o’r gwasanaethau mwyaf gweladwy y mae’r Cyngor yn ei ddarparu ac mae’n effeithio ar bob aelwyd yn y Sir.  Rydym wedi gwneud newidiadau mawr i’n casgliadau ailgylchu a gwastraff dros y blynyddoedd diwethaf i fod o flaen y ddeddfwriaeth, ac rydym ni’n parhau i wneud mwy. Rydym ni newydd lansio cyfnod prawf o gasgliadau plastig meddal o tua 4,500 o gartrefi yn Sir Ddinbych. Unwaith y bydd y cyfnod prawf yma’n dod i ben, byddwn yn ystyried yr opsiynau o ran casgliadau yn y dyfodol, cyn ei gyflwyno ar hyd a lled y Sir.

“Mae’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y mae’r Cyngor yn ei ddarparu angen bod yn flaengar ac yn barod ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Mae gofyn i breswylwyr ein helpu i siapio ein cynllun pum mlynedd yn hollbwysig a buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gall preswylwyr fynd i www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau neu gallant ymweld ag unrhyw Lyfrgell Cyngor Sir Ddinbych a Siop Un Alwad i ofyn am fersiwn papur o’r pecyn ymgynghori.

Comments