Hydref 2026

09/10/2026

Môr-wenoliaid bach yn ffynnu yng Ngronant diolch i ymdrechion cadwraeth

Llun gan Michael Steciuk

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu ei hail dymor ar hugain drwy gefnogi tymor bridio gwell dros yr haf ac ystod amrywiol o adar yn ymweld â’r safle.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych unwaith eto wedi croesawu’r Môr-wenoliaid bach yn ôl i’r nythfa yng Ngronant ar gyfer tymor yr haf.

Yr ardal hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru. Mae Twyni Gronant adnabyddus ledled y byd ac yn cyfrannu at dros 10% o gyfanswm y niferoedd bridio yn y DU, ac yn cefnogi nythfeydd eraill.

Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr ac yn hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst. Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae’r adar yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.

Codwyd corlannau ffensys trydan a ffens strap ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.

Gosodwyd ffens hefyd i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa a tharfu arni. Fodd bynnag gallai’r cyhoedd alw heibio canolfan wylio dros dro yng nghanolfan y môr-wenoliaid a chuddfan adar i ddod i wybod mwy a gweld yr adar o bell.

Helpodd wardeiniaid y safle i gadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr ac ar y tir, yn ogystal â siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i dwyni Gronant bob blwyddyn.

Yn ystod tymor 2026, cofnodwyd 133 o barau bridio, ynghyd ag o leiaf 153 o gywion bach, cynnydd ar y tymor diwethaf.

Cyfrifwyd bod cynhyrchiant y nythfa oddeutu 1.15 cyw bach fesul pob pâr bridio, gan ragori ar y targed o 0.7 cyw bach i bob pâr, fel yr awgrymwyd gan Cook a Robinson (2010) ar gyfer cynnal poblogaeth gynaliadwy o Fôr-wenoliaid bach.  Roedd hyn unwaith eto’n gynnydd ar dymor 2025.

Roedd y safle ehangach hefyd yn cefnogi cymuned o adar bridio amrywiol. Llwyddodd Cwtiad Torchog a Phïod y Môr i nythu a magu cywion yma, ac fe gafodd dau bâr o Gambigau nytheidiau o bedwar a thri chyw bach.

Fe wnaeth Bodaod y Gwerni hefyd fridio’n llwyddiannus mewn corsle cyfagos, ac fe arsylwyd cyw bach newydd yn ystod mis Gorffennaf. Fe wnaeth amrywiaeth o adar dŵr, adar hirgoes ac adar golfanaidd fridio’n llwyddiannus ar draws y twyni, y lagwnau, y morfa heli a’r corsleoedd.

Fe wnaeth Tîm Modrwyo Adar Gogledd Cymru a Mersey Ringing Group fodrwyo nifer o adar dan drwyddedau Atodlen 1 ac yn unol â phrotocolau Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO). Derbyniodd 135 o gywion Môr-wenoliaid bach fodrwyau metel BTO, ac fe gafodd 48 ohonynt fodrwy lliw hefyd.

Drwy arsylwi’r Môr-wenoliaid bach yn y Nythfa, gwelwyd hefyd bod adar o nythfeydd bridio yn Iwerddon, gogledd ddwyrain Lloegr ac Ynys Manaw yn parhau i ymweld â Thwyni Gronant yn 2026, gan ategu pwysigrwydd y nythfa o fewn y rhwydwaith ehangach o safleoedd Môr-wenoliaid bach o amgylch môr Iwerddon.

Bu i oddeutu 500 o bobl ymweld â Chanolfan y Môr-wenoliaid yn ystod y tymor. Ymwelodd wyth grŵp trefnedig â’r nythfa, yn cynnwys grwpiau bywyd gwyllt a gwylio adar o Swydd Gaer, Gogledd Cymru a Swydd Amwythig, grwpiau cymunedol lleol, a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Parhaodd y gwirfoddolwyr i chwarae rhan hanfodol yn y prosiect, gan ddarparu 229 awr o gefnogaeth.

Mae’r staff Cefn Gwlad yn gweithredu polisi ‘gadael dim ar ôl’ ar safle’r nythfa ac felly mae’r holl gyfarpar yn cael ei symud a’i gadw’n ddiogel tan y gwanwyn.

Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad a Rheolwr Rhandiroedd Sirol:  “Rydym ni bartneriaid a gwirfoddolwyr yn falch iawn o fod wedi ymwneud â’r prosiect hwn sydd wedi datblygu’n llawer mwy na diogelu aderyn môr hynod o brin. Mae cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y nythfa yn parhau i fod yn uwch nac unrhyw weithgaredd arall a gynigir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi bod yn wych unwaith eto i weld grwpiau lleol yn ymweld â’r nythfa.

“Mae wedi bod yn dymor gwell fyth i’r adar eleni, sy’n wych ar gyfer y rhywogaeth hon. Mae’r cynnydd yng nghyfartaledd y cywion bach fesul pâr bridio unwaith eto eleni yn dangos mor bwysig yw’r nythfa hon i ddyfodol y Môr-wenoliaid bach. Mae hefyd wedi bod yn braf gweld adar amrywiol eraill o amgylch y nythfa, sydd wir yn dangos mor bwysig yw’r gwaith hwn bob blwyddyn.

“Bu i Bobby Feeley, a oedd yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar y pryd, ymweld â Nythfa’r Môr-wenoliaid bach ac fe wnaeth cryfder a brwdfrydedd y staff wneud argraff arbennig arno. Er eu bod yn gweithio oriau anghymdeithasol ac ym mhob tywydd, roeddent yn cyflawni eu dyletswyddau gyda brwdfrydedd a balchder. Yr ymrwymiad hwn oedd yn sicrhau bod yr adar arbennig a phrin yma yn cael tymor bridio llwyddiannus.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gwarchod Nythfa’r Môr-wenoliaid Bach yn Nhwyni Gronant yn bwysig iawn ar gyfer goroesiad yr adar hyn sydd dan fygythiad. Mae’n galonogol clywed bod tymor 2026 wedi bod yn well fyth ar gyfer y Môr-wenoliaid bach a gall ein timau cefn gwlad, grwpiau partner a gwirfoddolwyr fod yn falch o’r gwaith y maent wedi’i wneud i gefnogi’r nythfa unwaith eto.”

 

 

 

 

Comments