20/10/2026
Cyngor i lwyfannu siecbwynt rali unigryw

Fe fydd y Rhyl yn llwyfannu siecbwynt ar gyfer rali arbennig gyda rhinweddau gwyrdd.
Wedi’i gefnogi gan Drafnidiaeth Cymru, bydd trydydd EV Rally Cymru yn galw heibio canolbwynt gwefru Cerbydau Trydan Gorllewin Cinmel, yn y Rhyl, bore 22 Hydref (rhwng 12:00 – 13:30)
Mae’r Rali, sy’n cychwyn y diwrnod cynt yng Nghaerdydd ac yn gorffen yng Nglannau Dyfrdwy, wedi’i ddylunio i ddangos bod newid i gerbydau trydan yn bosibl i yrwyr pob mathau o gerbyd a bod yr isadeiledd gwefru yno i helpu’r math yma deithio ar draws Cymru.
Eleni, mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar Gerbydau Nwyddau Trwm Trydan, a bydd nifer o’r cerbydau yma yn rhan o 25 sy’n dod i ganolbwynt gwefru Gorllewin Cinmel, cyn symud ymlaen i Wrecsam.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cyhoedd i newid i gerbydau trydan, mae’r canolbwynt gwefru yn cynnig cymysgedd o unedau gwefru cyflym iawn 50kW a chyflym 7kW i ddefnyddwyr lleol sydd heb fynediad i barcio oddi ar y stryd mewn 36 o lefydd parcio. Mae tri o’r mannau parcio ac unedau gwefru wedi’u clustnodi’n benodol ar gyfer defnyddwyr anabl.
Fe fydd gan y Cyngor hefyd ei fflyd ei hun o gerbydau trydan yn y canolbwynt gwefru i groesawu’r Rali i’r siecbwynt.
Fe fydd aelodau’r cyhoedd yn dal i allu defnyddio ardal talu ac arddangos y maes parcio a gallant weld cerbydau’r Rali tra’u bod yno.
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu EV Rally Cymru i ganolbwynt gwefru Gorllewin Cinmel. Mae’n gyfle gwych i ddangos y cyfleusterau sydd ar gael yma yn y Rhyl a dangos sut y gall cerbydau trydan gefnogi dyfodol mwy glân a chynaliadwy ar gyfer cludiant ar draws Cymru.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ers datgan argyfwng hinsawdd a natur yn 2019, mae’r Cyngor wedi parhau i leihau ei effaith amgylcheddol, yn cynnwys newid ei fflyd i gerbydau mwy gwyrdd lle bynnag y bo hynny’n weithredol bosibl. Mae bod â phedwar o’n cerbydau trydan yn y canolbwynt i groesawu’r rali yn adlewyrchu’r cynnydd ymarferol sy’n cael ei wneud.
“Rydym ni hefyd yn cydnabod bod preswylwyr angen opsiynau gwefru cyfleus a dibynadwy er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus yn newid i gerbydau trydan. Dyna pam ein bod wedi creu rhwydwaith cyhoeddus o gyfleusterau gwefru ar draws y Sir, gan helpu i wneud teithio ag allyriadau is yn ddewis realistig i fwy o bobl.”
I gael mwy o wybodaeth am EV Rally Cymru ewch i – wefan https://www.ev-rally.co.uk/cymru
Hashnodau craidd eleni yw - #EvRally #Cymru #Cydweithio
Linkedin - @EVRALLY @Transport for Wales @GREENFLEET @Denbighshire County Council