29/10/2026
Gwaith uwchraddio wedi ei gynllunio ar gyfer meysydd chwarae’r sir

Mae deg o feysydd chwarae’r sir yn mynd i gael eu hadnewyddu.
Mae Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU i alluogi gwaith adnewyddu i feysydd chwarae ledled y sir.
Dewiswyd y meysydd chwarae hyn o ganlyniad i broffil oedran yr offer a phryderon iechyd a diogelwch a amlygwyd mewn perthynas â’r offer eu hunain neu’r arwynebau chwarae.
Dyma’r deg safle a ddewiswyd ar gyfer gwaith uwchraddio:
- Cae Canol, Trefnant
- Clos Deganwy, Bodelwyddan
- Maes-y-Dre, Rhuthun
- Y Wern, Llandrillo
- Cae’r Ysgol, Carrog
- Nant-y-Pandy, Glyndyfrdwy
- Coed Afon, Llangollen
- Gerddi’r Coroni, Prestatyn
- Gerddi Coffa, Gallt Melyd
- Ffordd Penrhwylfa, Prestatyn.
Mae’r contract ar gyfer cyflawni’r gwaith hwn wedi ei osod ar dendr, a disgwylir i’r gwaith ddechrau rhywdro ym mis Tachwedd, pan fo’r contractwr ar gael a’r tywydd yn caniatáu.
Bydd yr amser a gymerir i gwblhau pob safle’n amrywio, gan fod angen gwaith mwy cymhleth ar rai meysydd chwarae nag eraill.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein meysydd chwarae yn fannau lle gall plant chwarae, lle gall teuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a lle gall gymdogion gyfarfod. Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn darparu lleoedd chwarae modern a diogel sy’n angenrheidiol i gymunedau, gyda mwy o offer cynhwysol a hygyrch i blant sydd ag anghenion ychwanegol. Edrychwn ymlaen at groesawu teuluoedd lleol yn ôl pan fo’r gwaith wedi ei gwblhau, fel y gallant fwynhau’r gwelliannau gyda’i gilydd.”