28/10/2026
Gwaith gwella i ddolydd y sir yr hydref hwn

Bydd nifer o ddolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych yn cael hwb gan safleoedd eraill yn y sir.
Timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd y Cyngor sydd wedi cynllunio’r gwaith er mwyn annog blodau gwyllt i ymwreiddio ar rai o ddolydd y sir yr hydref hwn a hybu amrywiaeth ynddynt.
Wedi’i sefydlu yn 2019 mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt bellach yn cynnwys bron i 70 erw o gynefinoedd blodau gwyllt brodorol, gan gefnogi natur, gwella bioamrywiaeth a chyfrannu at les cymunedol.
Mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Bydd gwaith yn digwydd ar saith o’r dolydd yn y sir yr hydref hwn gyda chymorth hadau o safleoedd eraill y prosiect.
Mae’r gwaith o dorri a chasglu’r glaswellt ar y dolydd wedi digwydd yn ystod ail gyfnod torri tymor y prosiect er mwyn tynnu’r maetholion o’r safle fel bod mwy o rywogaethau o flodau gwyllt yn gallu ymwreiddio.
Mae’r toriadau wedi cael eu prosesu ym Mhlanhigfa Goed y sir a bydd yr hadau sydd wedi’u casglu ohonynt yn cael eu plannu yn y dolydd sy’n cael eu dewis gan y tîm Bioamrywiaeth i hybu amrywiaeth a’u hannog i flodeuo'r flwyddyn nesaf.
Bydd y gwaith yn cynnwys creithio neu gribinio’r gwair i ddinoethi’r pridd a chreu lle i hadau blodau gwyllt egino a magu gwreiddiau. Mae hynny’n helpu i atal y gwair rhag mynd yn drech na’r blodau, yn annog yr hadau i egino ac yn hybu bioamrywiaeth drwy greu cymysgedd fwy helaeth o flodau gwyllt.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi gweithio i wneud yn siŵr ein bod yn casglu’r glaswellt oddi ar ein dolydd mwyaf amrywiol i ddarparu cymysgedd cryf o hadau ‘Sir Ddinbych’ y gallwn eu hau ar y safleoedd rydym wedi’u dewis i’w gwella. Mae gennym gymysgedd dda o blanhigion fydd yn dod ag amrywiaeth i’r safleoedd hyn a chefnogaeth gryfach i natur yn lleol.
“Mae gwella’r dolydd yn fuddiol i bawb, nid byd natur yn unig, a bydd cymunedau’n elwa ar aer glanach, trefi llai poeth, a chael mannau difyr ar gyfer addysg a chwarae er budd eu lles corfforol a meddyliol.”