23/10/2026
Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd yn dechrau’r gwaith o gael gwared ar rywogaeth anfrodorol ymledol

Mae’r gwaith o fynd i’r afael â rhywogaeth anfrodorol ymledol o greigafal o Lechweddau Prestatyn, Graig Fawr a Moel Hiraddug wedi symud ymlaen i’r cam nesaf.
Yn dilyn gwaith arolygu a mapio yn gynharach eleni, mae’r gwaith wedi dechrau i gael gwared ar y rhywogaeth anfrodorol ymledol o greigafal mewn tri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) penodol yn Sir Ddinbych.
Er bod creigafal yn blanhigyn poblogaidd ar gyfer yr ardd, wrth i’r blodau ddenu gwenyn ac wrth i’r aeron ddenu’r adar, mae'n hynod niweidiol i'n hardaloedd gwyllt, yn enwedig cynefinoedd prin fel glaswelltiroedd calchfaen oherwydd ei fod yn tyfu mor gyflym, a gall ddominyddu llechweddau cyfan yn gyflym iawn.
Mae’n tyfu mewn lleoedd sy’n anodd eu cyrraedd yn aml, felly bydd y rhywogaeth anfrodorol yn cael ei dynnu’n ofalus a’i reoli gan dimau mynediad arbenigol BODDACC ar Lechweddau Prestatyn a Moel Hiraddug a chan Ground Works ar Graig Fawr, wrth osgoi niweidio cynefinoedd a rhywogaethau eraill.
Mae Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd wedi'i ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy'n cael ei chyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru a'i nod yw gwella gwytnwch a chyflwr pum safle glaswelltir a choetir calchfaen SoDdGA yn Sir Ddinbych.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a pherchnogion tir preifat, mae'r prosiect yn ceisio hwyluso rheolaeth a fydd yn gwella amrywiaeth nodweddion arbennig yn y safleoedd, cynyddu maint y cynefinoedd glaswelltir calchfaen a gwella cyflwr y cymunedau o blanhigion a'r ffawna cysylltiedig.
Meddai Shannon Garside, ceidwad rhwydweithiau natur y prosiect:
“Rydym yn ddiolchgar i’n perchnogion tir preifat a’n partneriaid ar y prosiect, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am roi mynediad i ni at eu safleoedd ar gyfer y gwaith pwysig hwn. Mae hadau creigafal yn gallu lledaenu ar draws ardaloedd eang felly mae’n bwysig iawn cydweithio”
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Bydd y prosiect yn gwella cysylltedd cynefinoedd o fewn a rhwng y safleoedd gwarchodedig drwy reoli coridorau natur drwy greu ac adfer cynefinoedd sy’n eu cysylltu nhw a chyfyngu ar yr effeithiau y mae’r rhywogaethau ymledol hyn yn eu cael”.