Hydref 2026

14/10/2026

Ceidwaid ifanc yn dysgu sgiliau pladuro traddodiadol yn Nantclwyd y Dre

Mae aelodau o raglen Ceidwaid Ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn dysgu sgiliau cefn gwlad traddodiadol mewn ymdrech i reoli’r dolydd blodau gwyllt yn Nantclwyd y Dre.

Yn dilyn arolwg ystlumod yn gynharach yn y flwyddyn a drefnwyd gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor i fonitro clwyd warchodedig o Ystlumod Lleiaf, Ystlumod Pedol Lleiaf a’r Ystlumod Hirglust yn y tŷ hanesyddol, fe ddychwelodd y Ceidwaid Ifanc i Nantclwyd ar gyfer gweithdy pladuro ymarferol.

Wedi’i arwain gan dimau Cefn Gwlad a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych, fe gysylltwyd y ddwy sesiwn gan nod cadwraeth gyffredin sef rheoli’r dôl bodau gwyllt er mwyn annog bioamrywiaeth a chefnogi’r pryfetach ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill sy’n ffurfio rhan bwysig o’r fflora a ffawna lleol.

Mae’n debyg bod pladuro yn dyddio nôl i oes y Rhufeiniaid. Mae’n cynnwys defnyddio llafn hir crwm sydd wedi’i leoli ar ongl i’r handlen, er mwyn caniatáu torri gwair â llaw. Y dechneg draddodiadol hon oedd sut byddai gwair yn cael ei gynaeafu o ddolydd a phorfa Sir Ddinbych cyn defnydd eang tractorau.

Mae’r dechneg yn gyfeillgar i’r bywyd gwyllt sy’n byw ar ddolydd, ac mae’n rhoi amser iddynt symud ymlaen, ac mae’r sawl sy’n pladuro’n gwybod i edrych am anifeiliaid neu bryfed. Trwy dorri’r llystyfiant mae’n helpu i gadw lefelau maeth y pridd yn isel, gan greu amodau ffafriol ar gyfer blodau gwyllt ac annog mwy o fioamrywiaeth. 

Mae hyn yn arbennig o werthfawr mewn gardd hanesyddol sydd yn darparu cartref i ystod eang o fywyd gwyllt, yn cynnwys draenogod a rhywogaethau eraill yr ardd, ac mae’n ffurfio rhan o’r dull ehangach o reoli’r gerddi yn Nantclwyd y Dre lle mae cadwraeth a bioamrywiaeth yn ystyriaethau pwysig ynghyd â gofalu am y safle hanesyddol. 

Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:

“Roedd hi’n wych gweld y Ceidwaid Ifanc yn cael profiad ymarferol gyda sgiliau traddodiadol tra’n gwneud cyfraniad gwirioneddol i gadwraeth y gerddi. Mae’r ddwy sesiwn yn dangos sut y gall gofalu am ein safleoedd hanesyddol ac amddiffyn bywyd gwyllt weithio law yn llaw.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ymdrechion cyfun Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, ynghyd â’r Ceidwaid Ifanc, yn enghraifft wych o sut mae sgiliau traddodiadol yn gallu cefnogi rheolaeth gynaliadwy o fioamrywiaeth leol a gofalu am ein treftadaeth, tra’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau cefn gwlad a chadwraeth ymarferol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy treftadaeth@sirddinbych.gov.uk, neu’r Adran Cefn Gwlad drwy Imogen.Hammond@sirddinbych.gov.uk.

Comments