Hydref 2026

16/10/2026

Hwyl hanner tymor arswydus a phrofiadau ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ yng Ngharchar Rhuthun

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad Calan Gaeaf a gynhaliwyd y llynedd, mae Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau hanesyddol unwaith eto dros wyliau hanner tymor mis Hydref am hwyl arswydus ac anturiaethau ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ ar gyfer ymwelwyr o bob oedran.

Gall ymwelwyr ddisgwyl llwybr bwganllyd wrth olau ffagl a gweithgareddau crefft arswydus newydd, a hynny am y tâl mynediad arferol, yn ogystal â chyfle i grwydro’r Carchar ar ôl iddi dywyllu ar rai nosweithiau penodol.

O ddydd Sadwrn 24 Hydref tan ddydd Mercher 28 Hydref, bydd Carchar Rhuthun ar agor o 10.30am tan 4.30pm. Ond o ddydd Iau 29 Hydref tan ddydd Sadwrn 31 Hydref, bydd y Carchar yn aros ar agor tan 8pm, a gall ymwelwyr grwydro o amgylch y celloedd llawn awyrgylch ar ôl iddi nosi!

Pa bynnag amser o’r dydd y bydd pobl yn dewis ymweld, bydd hwn yn ddigwyddiad teuluol ac ni fydd unrhyw beth i godi braw arnoch nac actorion. Bydd ymwelwyr yn rhydd i grwydro o gwmpas ar eu cyflymder eu hunain.

Er mwyn creu awyrgylch arswydus, bydd y goleuadau yn yr islawr yn llai llachar na’r arfer, felly anogir ymwelwyr  i ddod â thortsh gyda nhw os oes ganddyn nhw un - a fydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer y llwybr i deuluoedd hefyd!

Mae ein gweithgareddau a’n llwybrau arswyd yn berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu dros hanner tymor, ac efallai y bydd plant hŷn, rhai yn eu harddegau ac oedolion yn ffafrio’r wefr ychwanegol o archwilio’r Carchar ar y nosweithiau ‘Ar ôl iddi Dywyllu’.

Meddai Philippa Jones o Garchar Rhuthun:

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â Chalan Gaeaf yn ôl i Garchar Rhuthun, yn enwedig ar ôl ymateb mor gadarnhaol y llynedd. Mae’r adeilad yn berffaith ar gyfer digwyddiadau arswydus, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr newydd a rhai sydd wedi bod o’r blaen i fwynhau’r llwybr arswyd a’r gweithgareddau newydd.”

Bydd Carchar Rhuthun hefyd yn aros ar agor trwy gydol wythnos Calan Gaeaf i ymwelwyr a hoffai archwilio’r atyniad treftadaeth yn ôl yr arfer - er y byddant yn dod ar draws ambell i arddangosiad arswydus ar hyd y ffordd!

Mae Carchar Rhuthun hefyd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ystod hanner tymor, gan hyrwyddo Calan Gaeaf mwy gwyrdd.

Dywedodd Carly Davies, Swyddog Arweiniol Treftadaeth Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych, ac Ymddiriedolwr Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru:

 “Mae darganfod amgueddfa neu oriel leol yn ffordd hyfryd o dreulio amser gyda’ch plant dros hanner tymor mis Hydref, yn enwedig os ydym yn cael hanner tymor traddodiadol wlyb! Mae adnodd y Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau eleni, a fydd ar gael fel rhan o’ch ymweliad â Charchar Rhuthun, yn canolbwyntio ar leihau ein defnydd o gliter a llywio gweithgareddau tuag at ddeunyddiau mwy naturiol yn lle, fel bo teuluoedd yn gallu mwynhau’r tymor arswyd heb y gost amgylcheddol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae Carchar Rhuthun yn atyniad eithriadol o boblogaidd yr ydym yn ddigon ffodus i’w gael ar garreg ein drws yma yn Sir Ddinbych, ac mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer Calan Gaeaf yn cynnig profiad gwahanol i ymwelwyr o’r Carchar.

“Yn dilyn llwyddiant y profiad ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ y llynedd mae’n wych clywed ei fod yn dychwelyd i’r Carchar eleni, rydym am i bob ymwelydd, waeth beth fo’u hoedran, allu cael profiad o hanes y Carchar a bydd y gweithgareddau Calan Gaeaf yn gyfle gwych i wneud hynny.”

 Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad Calan Gaeaf a gynhelir yng Ngharchar Rhuthun, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ar heritage@denbighshire.gov.uk

Comments