05/10/2026
Disgyblion yn helpu ymgyrch clirio sbwriel ar draeth Prestatyn

Mae digwyddiad partneriaeth wedi dychwelyd i draeth Barkby i helpu i fynd i’r afael â sbwriel.
Yn ddiweddar, daeth Tîm Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â TYFU Prestatyn ac ymgyrch Glanhau Traethau Prydain Fawr gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol, gydag offer gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn ôl i draeth Barkby i barhau i fynd i’r afael â sbwriel morol.
Gyda chefnogaeth tîm o 38 o wirfoddolwyr, yn cynnwys disgyblion o Ysgol Uwchradd Prestatyn, trefnwyd y digwyddiad i barhau â’r gwaith o leihau effaith sbwriel morol yn yr ardal, sy’n gallu rhwystro dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif dŵr ac arwain at fwy o risg o lifogydd lleol yn uwch i fyny’r afon.

Casglodd y tîm partneriaeth 15 bag o sbwriel o ardal arfordir Prestatyn, oedd yn pwyso 24kg.
Ymhlith y pethau anarferol a gasglwyd gan y tîm oedd cyrn beic, cadair gwersylla, peipiau, padelli ffrio, barcud a hyd yn oed esgid Crocs binc.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Roedd yn wych bod disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi ymuno â ni y tro hwn. Fe weithiodd y disgyblion yn galed gyda phob un ohonom i ymdrin ag effaith sbwriel o’r môr yn ardal Prestatyn, sy’n gallu rhwystro dyfrffyrdd a draeniau, atal llif y dŵr a chreu mwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
“Mae eu hymdrech i gael gwared â’r sbwriel o’r traeth hefyd yn helpu amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd rhag y môr yn well.
Ychwanegodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r bartneriaeth hon, dan arweiniad tîm Risg Llifogydd y Cyngor wedi dod yn bwysig i leihau effaith sbwriel morol ar ein harfordir o’r Rhyl i Brestatyn. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith parhaus i gefnogi’r amgylchedd, yn enwedig y disgyblion a ymunodd y tro hwn, gan y gallant fod yn falch o’u hymdrechion i amddiffyn y cynefin hwn i breswylwyr lleol a natur.”