07/10/2026
Planhigfa yn rhoi amddiffyniad o’r newydd i hen warchodwr pobl

Mae hen warchodwr pobl naturiol yn cael amddiffyniad o’r newydd yn Sir Ddinbych.
Mae staff ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn gweithio i roi hwb i niferoedd y griafolen yn y sir diolch i help gan hen goeden sy’n gwarchod dros Langollen.
Mae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.
Yn ddiweddar, aeth y staff i Ddinas Bran yn Llangollen i gasglu euron o hen griafolen sydd uwch ben y dref.
Mae dros 1.5kg o euron yn cael eu prosesu i helpu i sicrhau hadau criafolen hyfyw i’w plannu yn y blanhigfa. Mae’r broses yn cynnwys stwnshio’r euron mewn dŵr a’u rinsio mewn gogr i gael gwared ar y cnawd er mwyn cael at yr hadau.
Fel arfer, gwelir y griafolen ar fynyddoedd a rhostir ac fe’i gelwir hefyd yn ‘gerddinen’. Yn y gorffennol, fe’i cysylltwyd â llên gwerin a byddai pobl yn rhoi pren y goeden ar ddrysau i warchod eu cartrefi rhag ‘ysbrydion drwg’.
Mewn chwedlau Celtaidd, gelwid y goeden yn ‘goeden y teithiwr’ oherwydd y gred y byddai cario brigyn y griafolen yn atal ac yn gwarchod pobl rhag mynd ar goll wrth deithio.
Mae blodau’r gwanwyn ar y goeden yn hoff ffynhonnell bwyd i wenyn, gloÿnnod byw a gwyfynod ac yn y gwanwyn mae’r euron yn denu adenydd cwyr, y coch dan adain a bronfreithod eraill.
Meddai Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae’r griafolen wedi cael blwyddyn eithriadol o gynhyrchu euron, mae’n bosibl oherwydd y tywydd poeth yn ystod yr haf. Rydym hefyd wedi sylwi mai ychydig iawn o hadau mae’r dderwen wedi’u cynhyrchu oherwydd cylch mes naturiol y goeden i ddrysu ysglyfaethwyr a chadw poblogaeth mewn trefn. Bydd y ffyniant hwn yn euron y griafolen yn ein helpu i lenwi’r bwlch i gynhyrchu coed lleol er lles ein bioamrywiaeth.”
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tarddiad lleol yn allweddol i’r hyn mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn ei wneud yn y blanhigfa, felly mae’n wych gallu parhau â thras yr hen griafolen hon sy’n edrych dros Langollen ar hyd a lled ein sir yn y dyfodol.
“Trwy ofalu am hadau’r griafolen a’u tyfu yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn helpu i wella eu cyfraddau goroesi wrth gefnogi rhywogaeth frodorol sy’n cynnig gwerth gwirioneddol o ran bioamrywiaeth, o wenyn a pheillwyr eraill i wyfynod, adar a llawer o rywogaethau eraill.”