Hydref 2026

26/10/2026

Rhowch fywyd gwyrdd i’ch pwmpen ar ôl Noson Calan Gaeaf

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion i ailgylchu eu heitemau Calan Gaeaf eleni.

Bydd nifer o aelwydydd yn cerfio pwmpenni cyn bo hir yn barod at Noson Calan Gaeaf.

Ar ôl Noson Calan Gaeaf, rhowch eich pwmpen yn eich cadi gwastraff bwyd, ac nid y bin gwastraff cyffredinol. Tynnwch unrhyw ganhwyllau ac addurniadau’n gyntaf. Peidiwch â gadael pwmpenni yn yr ardd neu du allan ar ôl 31 Hydref, oherwydd gallant fod yn niweidiol i anifeiliaid megis draenogod.

Ailddefnyddiwch eich addurniadau Calan Gaeaf bob blwyddyn er mwyn arbed arian a deunyddiau. Os nad oes arnoch eu hangen mwyach, rhowch nhw i siop elusen leol.

Os nad oes modd ailddefnyddio’r addurniadau, rhowch nhw yn y cynhwysydd cywir gartref, neu cymerwch nhw i Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff.

Ailddefnyddiwch wisgoedd Calan Gaeaf bob blwyddyn. Os nad oes arnoch eu hangen mwyach, rhowch nhw i siop elusen leol.

Cofiwch nid oes posib’ ailgylchu papurau siocled, fferins a melysion.

Gellir ailgylchu batris a ddefnyddir mewn addurniadau yn y cynhwysydd cywir ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Defnyddiwch fatris ailwefru lle bo modd.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae Noson Calan Gaeaf yn amser cyffrous i breswylwyr o bob oedran. Mae sawl cartref a digwyddiadau yn arddangos gwisgoedd ac addurniadau. Cofiwch ailgylchu yn gywir. Gall ein gwasanaeth ailgylchu helpu pawb i fwynhau Calan Gaeaf ofnus a gwyrddach.”

Am gymorth gydag ailgylchu, ewch i ganllaw A i Z Ailgylchu y Cyngor.

Comments