Hydref 2026

13/10/2026

Darpariaeth chwarae meddal newydd a gwaith uwchraddio isadeiledd yn Ysgol Tir Morfa

Mae ysgol anghenion dysgu ychwanegol Tir Morfa yn y Rhyl wedi cael buddsoddiad gwerth dros £145,000 i uwchraddio’r isadeiledd a chael darpariaeth chwarae meddal newydd sbon yno.

Fel rhan o waith uwchraddio isadeiledd Ysgol Tir Morfa, gosodwyd 37 o ddrysau tân modern ym mhob rhan o’r ysgol yn lle hen ddrysau pren. Cafodd mesurau uwchraddio diogelwch tân eu gosod uwchben y nenfydau hefyd, gan arwain at wella safonau diogelwch tân yn sylweddol yn yr ysgol.

Mae ffens newydd sbon sy’n cwmpasu dros 370 metr wedi’i gosod o amgylch terfyn allanol yr ysgol hefyd, gan wneud y terfyn allanol yn fwy diogel. 

Ffens newydd sydd wedi’i gosod o amgylch terfyn allanol yr ysgol

Mae system intercom wedi’i gosod wrth y brif fynedfa, gan wella diogelwch yn yr ysgol.

Yn y ddarpariaeth chwarae meddal gosodwyd 18 o elfennau newydd gan gynnwys:

  • Padin wal ddringo.
  • Padin llawr.
  • Grisiau chwarae meddal.
  • Trampolîn chwarae meddal.
  • Mat paru siapiau chwarae meddal.
  • Pwll peli pwrpasol.
  • Set darnau chwarae meddal.
  • Sleid fawr chwarae meddal.

Darpariaeth chwarae meddal newydd

Roedd yr ystafell lle mae’r ddarpariaeth newydd hon wedi’i gosod yn arfer cael ei defnyddio fel ystafell newid, ac mae’r offer chwarae meddal newydd hyn wedi rhoi bywyd newydd i hen ofod.

Mae darpariaethau chwarae meddal yn helpu i gefnogi datblygiad gwybyddol, corfforol ac emosiynol disgyblion ac yn creu noddfa dawel a chyffyrddol sy’n helpu disgyblion niwrowahanol neu ddisgyblion sydd wedi’u gorsymbylu i brosesu eu hemosiynau mewn amgylchedd diogel a thawel.

Darpariaeth chwarae meddal newydd

Mae’r ffens derfyn a’r ddarpariaeth chwarae meddal wedi’u hariannu gan y Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r drysau tân a’r gwelliannau diogelwch tân newydd wedi’u hariannu drwy’r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion i Gynnal a Chadw Adeiladau.

Cafodd y prosiect diogelwch tân a ffens derfyn ei arwain a’i reoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau’r Cyngor, a chafodd y gwaith ei gwblhau gan gwmni B & W Builders and Decorators Ltd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ystod eang o waith gwella wedi’i wneud yn Ysgol Tir Morfa yn ddiweddar. Mae cynlluniau gwaith isadeiledd yn angenrheidiol i sicrhau fod ysgolion yn cael eu huwchraddio i aros yn gyfredol.

Mae’r ddarpariaeth chwarae meddal newydd wedi ychwanegu at ardal chwarae meddal bresennol yr ysgol, gan ddod â 18 o elfennau newydd i’r ystafell hon.

Bydd y gofod chwarae meddal hwn yn helpu i gefnogi datblygiad gwybyddol ac emosiynol ac yn darparu ardal chwarae newydd a hwyliog i ddisgyblion yn Ysgol Tir Morfa.”

Comments