Hydref 2026

02/10/2026

Cyfleusterau dosbarth newydd yn dechrau siapio yn Ysgol y Castell

Mae’r gwaith ymestyn ac ailwampio yn Ysgol y Castell wedi gwneud cynnydd da iawn dros wyliau’r haf. 

Dechreuodd y prosiect, sy'n cynrychioli buddsoddiad o dros £1.7 miliwn, yn ystod haf 2025, a bydd yn darparu gofod ychwanegol ym mhedair o’r dosbarthiadau presennol.

Estyniad Ysgol y Castell

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod ychwanegol i bedair ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Mae’r cynnydd a wnaed dros yr haf yn golygu bod bob un o’r dosbarthiadau newydd bellach yn cael eu defnyddio.  Mae gwaith rendro a phaentio allanol hefyd wedi’i gwblhau ar yr estyniad newydd, a disgwylir y bydd pibellau dŵr yn cael eu gosod a’r iard yn cael ei pheintio dros yr wythnosau nesaf.

Gosodwyd drysau newydd drwy adeilad yr ysgol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i uwchraddio mesurau diogelwch tân a gwella cadernid a diogelwch safle’r ysgol. 

Bydd angen cwblhau gwaith addurno pellach mewn cysylltiad â’r drysau newydd, a bydd gwaith i fynd i’r afael â mân broblemau a diogelwch tân yn cael eu cwblhau yn ystod hanner tymor yr hydref.

Mae’r prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn unol â’r rhaglen wreiddiol, a disgwylir y bydd y gwaith wedi gorffen erbyn y gaeaf eleni.

Darperir y prosiect gan BrynBuild Ltd ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, cyfraniadau datblygwyr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan, a Chyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Disgwylir i’r prosiect ymestyn ac ailwampio Ysgol y Castell, Rhuddlan gan ddarparu gofod a chyfleusterau dysgu gwell a newydd a chreu cyfanswm o 64 metr sgwâr o ofod ychwanegol unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Rwy’n hapus iawn â’r cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â’r prosiect hwn, ac rydym yn falch iawn o weld y disgyblion a’r athrawon yn manteisio ar y gofod ychwanegol a’r gwelliannau. Mae’r prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, yn unol â’r rhaglen waith wreiddiol.

Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar draws y sir a sicrhau fod disgyblion Ysgol y Castell yn elwa o’r cyfleusterau newydd a gwell hyn nawr ac am flynyddoedd i ddod.”

Comments