22/10/2026
Symiau mawr o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu mewn ymgyrch ar y cyd

Yn ddiweddar bu tîm Safonau Masnach y Cyngor yn parhau â’u hymdrechion i fynd i’r afael â gwerthu sigaréts anghyfreithlon yn y Rhyl.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Thîm Tybaco Safonau Masnach Cymru Gyfan, fe ymwelwyd â dau eiddo yn y Rhyl yn yr ymgyrch ar y cyd, ar ôl cynnal dau brawf prynu yn y ddau leoliad.

Ar ôl cynnal y profion prynu, fe aeth swyddogion yn ôl i’r ddau leoliad ac atafaelu swm sylweddol o sigaréts a thybaco anghyfreithlon o’r eiddo cyntaf, a chanfod cyfres o gypyrddau cudd oedd yn cael eu defnyddio i guddio nwyddau anghyfreithlon yn yr ail leoliad.
Meddai’r Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:
“Mae'r ymgyrch yn ffurfio rhan o waith parhaus y cyngor i fynd i'r afael â gwerthu tybaco anghyfreithlon a chynnyrch fêpio anghyfreithlon, amddiffyn busnesau cyfreithlon a helpu i leihau argaeledd y cynnyrch yma ar strydoedd mawr y Sir.
“Dyma enghraifft arall o’r gwaith gwych mae ein swyddogion Safonau Masnach yn ei wneud i dynnu cynnyrch anghyfreithlon fel y rhain oddi ar ein silffoedd. Roedd yr eitemau a atafaelwyd yn rhai ffug a allai fod yn beryglus i iechyd a diogelwch y bobl hynny fyddai’n eu prynu a’u defnyddio.
“Mae ein preswylwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth amlygu ardaloedd neu unigolion o ddiddordeb, sy’n helpu ein swyddogion Safonau Masnach i ymchwilio a chael gwared ar dybaco, fêps a chynnyrch anghyfreithlon eraill yn ein cymuned.”
Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar sigaréts, tybaco a chynnyrch fêpio anghyfreithlon drwy wefan Sir Ddinbych.