Hydref 2026

19/10/2026

Planhigfa’n plannu’r hedyn ar gyfer pyllau sy’n ffynnu

Mae prosiect peilot yn helpu i roi cefnogaeth i flodau o natur ddyfrol yn Sir Ddinbych.

Mae staff ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy yn tyfu dau fath o flodau gwyllt dyfrol i helpu natur i ffynnu o gwmpas pyllau.

Mae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.

Maen nhw hefyd yn defnyddio dull tebyg i dyfu amrywiaethau o flodau gwyllt ar y safle trwy ddefnyddio hadau o ddolydd Sir Ddinbych.

Mae hadau wedi’u casglu o byllau lleol i dyfu glas y gors a chreulys y dŵr mewn fframiau prifiant i helpu i gynyddu bioamrywiaeth mewn ardaloedd ar ochr pyllau ar draws y sir.

Mae glas y gors yn creu clwstwr o flodau glas yr awyr dros yr haf.

Eglurodd Sam Brown, Cynorthwy-ydd y Blanhigfa Goed:  “Mae’n dda iawn ar gyfer Madfallod Dŵr Cribog, mae ganddo ddail mawr lle gallant ddodwy eu hwyau a phlygu’r ddeilen drosodd i’w hamddiffyn.

“Caiff ei alw’n ddist hefyd, mae’n tyfu’r gwreiddiau i ymylon y pwll ac yna mae’n tyfu ar draws arwyneb y dŵr. Mae madfallod yn ei hoffi oherwydd mae’n golygu y gallant fyw yn y golofn ddŵr gyfan yno heb orfod poeni am reibwyr yn eu dal. Felly mae’n lloches dda ac mae peillwyr wrth eu boddau hefyd.”

Mae’r planhigyn yn un lluosflwydd a phan fydd yn barod, gellir plannu’r plygiau trwy greu hollt bach yn y clai o gwmpas pwll a’i osod yno.

Mae staff y blanhigfa goed hefyd yn ceisio tyfu mwy o greulys y dŵr sy’n ddefnyddiol ar gyfer darparu lloches i benbyliaid a chrethyll ac mae’n annog gweision y neidr.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae staff a gwirfoddolwyr y blanhigfa yn edrych ymlaen at dyfu’r prosiect peilot hwn i ddarparu blodau gwyllt dyfrol i helpu i gefnogi bioamrywiaeth pyllau yn lleol.

Trwy eu meithrin yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn dysgu pa ddulliau sy’n gweithio orau i annog twf ac ychwanegu at yr amryw blanhigion a choed y mae’r blanhigfa yn eu darparu i roi hwb i natur yn ein cymunedau lleol.”

 

Comments